Llofruddiaeth Bagillt: Gwadu cyhuddiadau o lofruddio
- Cyhoeddwyd

Cafodd Andrew Hamilton ei ganfod yn farw mewn bloc o fflatiau yn y dref
Mae dyn o ogledd Cymru wedi gwadu cyhuddiadau o lofruddio yn dilyn marwolaeth dyn yn Sir y Fflint ym mis Gorffennaf.
Mae'r diffynnydd, Christian Francis Williams, 43 oed o Fagillt, wedi ei gyhuddo o lofruddio Andrew Hamilton, 42, mewn bloc o fflatiau ar Stryd Fawr Bagillt.
Fe ymddangosodd Williams gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener.
Dywedodd y barnwr, Rhys Rowlands, y bydd yr achos yn dechrau ar ddydd Mercher, Ionawr 16.
Mae Williams yn parhau yn y ddalfa.