Cael gwared â graffiti oddi ar fynydd Tryfan yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae'r broses o olchi graffiti oddi ar greigiau ar Tryfan yn Eryri wedi dechrau ddydd Gwener.
Y gred yw bod y fandaliaeth wedi digwydd yn gynharach yn yr wythnos, gan fod y dyddiad '1.10.18' wedi ei nodi mewn paent melyn, yn ogystal â 'Widzew Łódź' - enw tîm pêl-droed o Wlad Pwyl - a 'smoke weed'.
Roedd beirniadaeth chwyrn i'r graffiti ar y cyfryngau cymdeithasol yma yng Nghymru ac yng Ngwlad Pwyl.
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn datganiad eu bod nhw'n annog pobl i "fwynhau tirwedd arbennig y parc", ond hefyd i "barchu ei brydferthwch".
Ychwanegodd y datganiad: "Nid yn unig fod peintio graffiti yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond mae hefyd yn drosedd - a hoffwn atgoffa unrhywun y dylid meddwl ddwywaith cyn gwneud y fath bethau twp."
Staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd bellach yn delio gyda'r graffiti ar y mynydd.