Cynnal gigiau i ddenu mwy o bobl ifanc i lyfrgelloedd

  • Cyhoeddwyd
SeazooFfynhonnell y llun, Gorwelion
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Seazoo ymysg y bandiau fydd yn perfformio yn llyfrgelloedd Cymru yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd

"Denu cynulleidfa newydd i'r llyfrgell" yw gobaith digwyddiadau cerddorol yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd eleni.

Yn ôl trefnwyr y digwyddiadau, bwriad arall gigiau "Sŵn y Silffoedd" yw dod â phobl at ei gilydd a goresgyn unigrwydd.

Bydd cantorion yn perfformio yn llyfrgelloedd yn Llandudno ac Abertawe fel rhan o ddigwyddiadau'r wythnos.

Dywedodd rheolwr gwasanaethau llyfrgelloedd Conwy bod digwyddiadau o'r fath yn chwalu'r ddelwedd o lyfrgelloedd fel llefydd "tawel, llawn hen lyfrau anniben".

Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei gynnal i hyrwyddo'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal gan lyfrgelloedd y DU.

Cynnig gofod creadigol

Mae dros 260 o lyfrgelloedd cyhoeddus - gan gynnwys llyfrgelloedd symudol - yng Nghymru, ac er bod ystadegau llynedd wedi dangos bod cynnydd yn y nifer o bobl ifanc sy'n defnyddio llyfrgelloedd hynny, mae denu pobl yn eu harddegau i ddefnyddio'u llyfrgelloedd lleol yn parhau'n her.

Dywedodd Bethan Elfyn, rheolwr prosiect Gorwelion, bod Sŵn y Silffoedd yn ffordd o "amlygu'r rôl mae llyfrgelloedd yn ei chwarae yng nghymdeithas heddiw ac i ddod â chynulleidfa newydd i'r llyfrgell".

"Gyda ffocws yr Wythnos Llyfrgelloedd eleni ar wella lles gan gynnwys cynnig gofod i fod yn greadigol rydym yn ystyried hwn fel llwyfan perffaith i'n hartistiaid - ni allaf aros i weld ymateb pobl," meddai.

Ffynhonnell y llun, Wythnos Llyfrgelloedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wythnos Llyfrgelloedd 2018 yn canolbwyntio ar les fel thema i ddigwyddiadau'r wythnos eleni

Bydd Eädyth, Seazoo ac I See Rivers yn perfformio mewn llyfrgelloedd yn Abertawe a Llandudno, gydag Estrons yn perfformio dan brosiect Get It Loud in Libraries yn Llanelli.

Yn ôl Kathryn Parry, Rheolwr Datblygu cymdeithas llyfrgelloedd a gwybodaeth CILIP Cymru: "Mae mynd â cherddoriaeth fyw i lyfrgelloedd yn ffordd arall o amlygu sut mae llyfrgelloedd yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu ar gyfer holl aelodau cymdeithas heddiw."

Denu pobl ifanc

Dywedodd Refna Griffiths-Jones, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgelloedd Conwy, bod digwyddiadau fel gigiau Sŵn y Silffoedd yn holl bwysig i ddenu darllenwyr a defnyddwyr newydd i'r llyfrgell.

"Y grŵp anodda' i'w denu i'r llyfrgell yw plant yn eu harddegau a phobol ifanc," dywedodd. "Y gobaith yw bod digwyddiadau fel hyn yn eu denu i mewn."

Mae Llyfrgell Llandudno dan adain Llyfrgelloedd Conwy, ac maen nhw hefyd yn cynnal digwyddiadau amrywiol eraill, gan gynnwys grwpiau darllen a sesiynau ioga i fabanod.

Wrth gynnal digwyddiadau amrywiol yn y llyfrgell, dywedodd Ms Griffiths-Jones mai denu pobl amrywiol at gyfleusterau'r llyfrgell a chwalu'r ddelwedd o lyfrgell fel rhywle "tawel, llawn hen lyfrau anniben" yw'r nod.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae "perygl" bod llyfrgelloedd mewn lle bregus wrth i gyllid llywodraethau lleol ostwng eto

Ynghyd â nifer o wasanaethau cyhoeddus eraill, mae yna ofnau y gall llyfrgelloedd fod mewn lle bregus wrth i gyllid awdurdodau lleol leihau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod "gwariant ar lyfrgelloedd wedi disgyn o draean" wrth i gyllid llywodraeth leol barhau i gael ei dorri.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae llyfrgelloedd, fel pob ased i'r gymuned sy'n cael eu rhedeg gan gynghorau, yn darparu gwasanaeth gwerthfawr yn ein cymunedau ac yn allweddol wrth fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol megis unigrwydd.

"Fodd bynnag, gan fod cyllid llywodraeth leol wedi cael ei dorri eleni am yr wythfed flwyddyn yn olynol, rydyn ni mewn perygl o weld gwasanaethau hanfodol o'r fath yn cael eu colli'n gyfan gwbl."