Plentyn yn ddifrifol wael wedi gwrthdrawiad Rali GB Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur oedd yn perfformio fel rhan o ddigwyddiad Rali GB Cymru yn Llandudno.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad cyn dechrau'r cymal olaf o amgylch y Gogarth, a dywedodd tystion bod y ddau feic modur wedi taro'n erbyn ei gilydd ar y promenâd.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai cyfranwyr o dîm arddangos beicio modur oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad, nid cystadleuwyr nac aelodau'r cyhoedd.
Cafodd y plentyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Alder Hay yn Lerpwl, ac mae ei anafiadau'n cael eu disgrifio fel rhai all beryglu ei fywyd.
Fe gafodd dechrau'r cymal olaf ei ohirio am ddwy awr nes 14:00, a'i gwtogi i 14 o yrwyr yn unig oherwydd y digwyddiad.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n cynnal ymchwiliad ac yn annog tystion neu unrhyw un oedd yn ffilmio'r digwyddiad i gysylltu â'r llu.