Apêl heddlu wedi damwain Rali GB Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 7 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty, yn ôl Heddlu'r Gogledd, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur oedd yn perfformio fel rhan o ddigwyddiad Rali GB Cymru yn Llandudno.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ychydig cyn 11:30 ddydd Sul ar ran o'r prom oedd wedi cau ar gyfer y rali.
Cafodd y bachgen, oedd yn aelod o dîm arddangos beicio modur, ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl lle mae'n parhau i gael triniaeth.
Dywedodd yr Uwcharolygydd dros dro gyda Heddlu'r Gogledd, Neil Harrison, bod teulu a ffrindiau'r bachgen yn eu meddyliau, a bod y llu'n cynnal ymchwiliad ar y cyd â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.
Mae'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau all helpu'r ymchwiliad i gysylltu âr Uned Plismona'r Ffyrdd gynted â phosib, os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes.
"Bydd lluniau ffonau aelodau'r cyhoedd a lluniau CCTV gwestai lleol yn rhan o'r ymchwiliad a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â ni," dywedodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2018