Ymddiheuriad Cyngor Wrecsam wedi cwyn am safon ieithyddol

  • Cyhoeddwyd
Cyngor WrecsamFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ombwdsmon wedi gofyn i Gyngor Wrecsam i ysgrifennu llythyr arall a thalu £100 o iawndal yn ychwanegol i Mr D.

Mae Cyngor Wrecsam wedi ymddiheuro'n gyhoeddus ar ôl cael eu cyhuddo o ddangos "ddiffyg parch" tuag at y Gymraeg.

Daw'r ymddiheuriad yn dilyn adroddiad oedd yn beirniadu Cyngor Wrecsam am fethu a chywiro gwallau ieithyddol ar filiau treth cyngor, er i hyn ddod i'w sylw nhw yn 2014.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus orchymyn y cyngor i newid y gwallau yn 2017 yn ogystal â thalu £50 o iawndal i ddyn sy'n cael ei adnabod fel Mr D.

Ond, pan wnaeth Mr D dderbyn ei fil treth cyngor ym mis Mawrth eleni, roedd yna dal anghysondebau rhwng y fersiwn Cymraeg a'r un Saesneg.

Dywedodd fod hyn yn arwydd o "ddiffyg parch at drethdalwyr, yr iaith Gymraeg, y gyfraith ac i'r Ombwdsmon."

'Cadw addewid'

Fe gyfaddefodd y Cynghorydd Hugh Jones fod y cyngor wedi gwneud yr un camgymeriad ddwywaith, a dywedodd y buasai'r mater yn cael ei sortio.

Ychwanegodd mewn cyfarfod gweithredol y cyngor ddydd Mawrth: "mae'n rhaid i mi ddechrau gydag ymddiheuriad swyddogol, yn gyntaf i Mr D ac yn ail i'r Ombwdsmon.

"Fe fethodd y cyngor a chadw'r addewid i'r ddau ohonyn nhw," meddai.

Mae'r Ombwdsmon wedi gofyn i'r Cyngor ysgrifennu llythyr arall a thalu £100 o iawndal yn ychwanegol i Mr D.

Fe bleidleisiodd y bwrdd gweithredol yn unfrydol i gefnogi'r cynnydd i sortio'r broblem sydd wedi'i godi gan yr Ombwdsmon.