Cyhuddo Cyngor Wrecsam o 'ddiffyg parch' at y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Wrecsam wedi cael eu cyhuddo o "ddiffyg parch" wedi i un o drigolion y sir dderbyn llythyr â gwallau Cymraeg dro ar ôl tro.
Dywedodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Nick Bennett fod yr awdurdod lleol wedi addo cywiro'r broblem y llynedd ond wedyn wedi gwneud dim am y peth.
Cafodd cwyn ei wneud gan ddyn oedd wedi derbyn llythyrau am ei dreth cyngor oedd yn cynnwys gwallau ieithyddol, a hynny am bum blynedd yn olynol.
Dywedodd Cyngor Wrecsam y byddan nhw'n cydymffurfio gyda dyfarniad Mr Bennett a'u bod yn "cymryd yr iaith Gymraeg o ddifrif".
Ymddiheuriad arall
Dywedodd yr Ombwdsmon fod yr achwynydd wedi cysylltu gyda'r awdurdod lleol ynglŷn â gwallau yn eu llythyr am fil y dreth cyngor yn 2014, 2015 a 2016.
Llynedd fe dderbyniodd lythyr arall oedd hefyd â chamgymeriadau yn y fersiwn Gymraeg, gan arwain at gŵyn ffurfiol i'r cyngor yn ogystal â'r Ombwdsmon.
Cytunodd y cyngor i ymddiheuro a thalu iawndal o £50 - ond eleni cafodd y dyn, sydd ond wedi'i enwi fel Mr D, lythyr arall gyda "nifer o wallau yn y Gymraeg".
Roedd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws eisoes wedi dyfarnu yn 2017 nad oedd Cyngor Wrecsam wedi cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn eu gohebiaeth am y dreth cyngor.
Mae'r Ombwdsmon bellach wedi cyhoeddi adroddiad arbennig ar y mater, yr ail waith yn unig i Mr Bennett wneud hynny ers cael ei benodi yn 2014.
"Rydw i'n siomedig nad yw Cyngor Wrecsam wedi cywiro'r camgymeriadau hyn a dilyn y camau y gwnaethon nhw addo gwneud," meddai Mr Bennett.
"Mae hyn yn dangos diffyg parch at yr iaith Gymraeg ac aelodau'r cyhoedd y maen nhw'n eu gwasanaethu."
Ychwanegodd fod y cyngor wedi trin y gwyn fel un "dibwys" a'u bod ond wedi cytuno i'w ofynion blaenorol er mwyn osgoi ymchwiliad.
"Mae'n hanfodol bod y cyngor yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd a byddaf yn monitro'r sefyllfa i sicrhau eu bod yn cydymffurfio," meddai.
'Cymryd yr iaith o ddifrif'
Mae'r cyngor bellach wedi cytuno i ymddiheuriad arall i Mr D, talu £100 o iawndal iddo, a chreu proses ffurfiol ysgrifenedig fydd yn sicrhau bod dogfennau o'r fath yn cael eu hadolygu gan gyfieithwyr yn y dyfodol.
Dywedodd pennaeth cyllid Cyngor Wrecsam, Mark Owen: "Rydym wedi cael ein hysbysu o benderfyniad yr Ombwdsmon ac fe fyddwn wrth gwrs yn dilyn ei gyfarwyddiadau.
"Byddwn yn ymddiheuro i Mr D ac yn rhoi'r iawndal iddo yn fuan. Rydym yn cymryd yr iaith Gymraeg o ddifrif ac yn siomedig fod y mater hwn wedi cymryd cyhyd i gael ei ddatrys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2015