Arweinydd UKIP eisiau refferendwm ar ddyfodol y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Gerard Batten
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gerard Batten y byddai refferendwm yn cynnig ffordd ymlaen

Mae arweinydd UKIP yn y Deyrnas Unedig wedi dweud y byddai'n hoffi gweld refferendwm i benderfynu a ddylid cael gwared ar y Cynulliad Cenedlaethol.

Daw sylwadau Gerard Batten ar ôl i Gareth Bennett, arweinydd y grŵp UKIP yn y Cynulliad, ddweud ei fod am ymgyrchu i ddiddymu'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Mae sylw Mr Bennett wedi rhwygo grŵp UKIP yn y Senedd, gyda'r syniad yn cael ei wrthwynebu gan David Rowlands a Michelle Brown.

Yn siarad yng Nghaerdydd ar ôl cwrdd â phedwar AC UKIP, fe wnaeth Mr Batten wrthod honiad ei fod yn tywys ei blaid i gyfeiriad mwy eithafol.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Batten mai barn Mr Bennett yn unig oedd ei sylw ar y cynulliad: "Dyw hyn ddim yn rhan o bolisi'r blaid ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bennett o blaid diddymu'r Cynulliad Cenedlaethol

Ond ychwanegodd: "Un o'r pethau rydym am wneud yw cynnal cynhadledd ar gyfer Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac ein haelodau o Gynulliad Llundain, er mwyn penderfynu ar y dyfodol.

"A ddylen ni gael polisi cenedlaethol, a ddylen ni fod â gwahanol bolisïau ar gyfer gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig?"

Dywedodd mai un o'r syniadau sy'n cael ei wyntyllu yw'r posibilrwydd o gynnal refferendwm "er mwyn i bobl benderfynu a ydynt am gadw'r Cynulliad neu beidio".

"Mae hynny'n benderfyniad iddyn nhw. Rwy'n hapus gyda'r hyn mae pobl Cymru yn ei benderfynu.

"Pe bai nhw am ei gadw neu ei waredu, byddaf i yn hapus gyda hynny oherwydd ei bod o'n benderfyniad democrataidd."

Mae anghydweld ymhlith ACau UKIP wedi gweld nifer ACau y blaid yn gostwng o saith ym Mai 2016 i bedwar.