Diffyg adnoddau i helpu pobl ifanc â galar yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae yna ddiffyg adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael i helpu pobl ifanc ymdopi â galar, yn ôl awdures.
Daw'r sylw gan Ann Atkin wrth i lyfr newydd o'r enw 'Popeth yn Newid' gael ei lansio er mwyn helpu plant a phobl ifanc i ddelio â cholled.
Cyfieithiad o 'Everything's Changing' gan yr un awdur yw'r llyfr newydd, adnodd a ddefnyddiwyd gan nifer o wasanaethau sy'n cefnogi pobl ifanc a phlant mewn profedigaeth.
Dywedodd Ms Atkin, sy'n gweithio yn Hosbis Sant Cyndeyrn: "Drwy fy ngwaith gyda'r hosbis dwi'n deall pa mor bwysig yw hi i blant ddefnyddio eu hiaith gyntaf mewn amser o brofedigaeth.
"Hyd y gwn i, nifer fach iawn o adnoddau sydd ar gael i blant sydd yn galaru yn yr iaith Gymraeg."
Yn ôl Ms Atkin, y rheswm ei bod hi wedi cyhoeddi'r fersiwn Saesneg yn y lle cyntaf oedd gan nad oedd eisoes cyhoeddiad "addas" yn bodoli ar gyfer plant o'r oedran yna.
Ychwanegodd mai dyma yw'r meddwl tu ôl i gyhoeddi 'Popeth yn Newid'.
"Gobeithio gall y llyfr helpu adeiladu gwydnwch drwy annog pobl ifanc i drafod eu galar, ac i ddefnyddio strategaethau ymdopi gwell" meddai.
Mae Gwen Aaron yn gweithio i fudiad Cruse, elusen sydd yn cynnig cefnogaeth i bobl o bob oedran sy'n delio â galar, ac yn ôl hi mae unrhyw adnoddau newydd yn y Gymraeg yn rhywbeth "positif".
Yn ôl Ms Aaron, mae plant yn aml yn teimlo "galar dwys am gyfnod byr", a'i bod hi'n hynod o bwysig i wneud y profiad mor "normal" â phosib i'r plentyn.
Ychwanegodd fod llyfrau o'r fath yn gallu bod yn lot o help i blant mewn profedigaeth.
Bydd y llyfr yn cael ei lansio yn Llyfrgell Prestatyn ar 10 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2017