ACau'n pleidleisio'n erbyn gohirio trwydded mwd Hinkley

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Hinkley Point CFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae trwydded i symud 300,000 tunnell o fwd o Hinkley Point C i safle ychydig dros filltir i'r môr o Fae Caerdydd

Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio yn erbyn cynnig i ohirio'r drwydded i waredu mwd o safle gorsaf niwclear Hinkley C ym Mae Caerdydd.

Er hynny mae'r mwyafrif o ACau wedi galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i wneud mwy i dawelu meddyliau'r cyhoedd.

Fe ddaeth y bleidlais wedi trafodaeth fywiog yn y Cynulliad a phrotest y tu allan i'r adeilad.

Roedd cyn-AC Plaid Cymru, Neil McEvoy, wedi mynnu fod Llafur yn gwrando ar eu hetholwyr, ond mae un gweinidog wedi cyhuddo'r ymgyrch yn erbyn gwaredu'r mwd o ledaenu "celwydd".

'Codi bwganod'

Roedd 26 o aelodau wedi pleidleisio yn erbyn, tra bod 22 wedi pleidleisio o blaid y gohirio. Methodd yr ymdrech yn bennaf ar ôl i ACau Llafur ei wrthwynebu.

Cafodd pleidlais arall - ynglŷn â gwneud mwy i dawelu meddyliau trigolion lleol - ei gefnogi o 38 pleidlais i 10.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd protestwyr wedi ymgynnull y tu allan i'r Senedd brynhawn Mercher

Daw'r drafodaeth ddiweddaf yn dilyn deiseb yn erbyn gwaredu mwd o orsaf niwclear Hinkley yng Ngwlad yr Haf - sydd eisoes yn digwydd.

Mae ymgyrchwyr wedi galw am brofion pellach, ond mae Llywodraeth Cymru - sy'n goruchwylio CNC - wedi dweud fod canlyniadau profion sydd eisoes wedi eu gwneud o fewn lefelau diogel.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths wedi cyhuddo'r ymgyrch yn erbyn gwaredu'r mwd o "ledaenu celwydd" a "codi bwganod".

Dywedodd fod yna rai sydd yn "ceisio camarwain y cyhoedd ar bwrpas er mwy'n elwa'n wleidyddol".

'Cywilyddus'

Dywedodd Mr McEvoy, sydd wedi bod yn rhan ganolog o'r ymgyrch yn erbyn gwaredu'r mwd: "Mae nifer ohonom wedi ymgyrchu ers blynyddoedd yn erbyn y sefydliad yma, roedden ni'n disgwyl i lywodraeth Lafur ochri gyda ni, ond be' mae Llafur wedi ei wneud?"

Ychwanegodd: "Maen nhw wedi croesawu'r peth... Pam fyddech chi'n derbyn 320,000 tunnell o wastraff yn cael ei waredu ar eich stepen drws gan eich cymydog?"

Wrth ymateb i'r bleidlais, dywedodd Andrew RT Davies AC fod canlyniad y bleidlais yn dangos "diffyg dealltwriaeth Llywodraeth Lafur Cymru o bryderon y bobl".

"Mae gan weinidogion Llafur y pŵer i ymyrryd a rhwystro gwaredu'r mwd - ond yn hytrach maen nhw wedi troi eu cefn ar fy etholwyr - sy'n gywilyddus."