Ailfeddwl her gyfreithiol i atal gwaredu mwd Hinkley

  • Cyhoeddwyd
Hinkley PointFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o waredu 300,000 tunnell o fwd o Hinkley Point C ar arfordir Caerdydd eisoes wedi dechrau

Mae ymgyrchwyr wedi penderfynu rhoi'r gorau i her gyfreithiol yn erbyn datblygwyr gorsaf niwclear Hinkley C, oriau'n unig cyn darganfod a oedd eu cais yn llwyddiannus.

Roedd yr ymgyrchwyr wedi cyflwyno dogfennau llys mewn ymgais i ohirio neu atal gwaredu'r mwd.

Mae oddeutu 300,000 tunnell o fwd yn cael ei waredu o'r safle ger Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf yn y môr ger Bae Caerdydd.

Mae'r AC annibynnol Neil McEvoy wedi dweud bod y penderfyniad i dynnu'r her gyfreithiol yn ôl yn sgil "datblygiadau yn yr achos".

Yn ôl Mr McEvoy: "Penderfynom dynnu'r her yn ôl am nad dyma oedd ein gobaith olaf bellach. Fe fydd y mater yn cael ei drafod yn y Cynulliad."

Bydd dadl honno yn y Cynulliad yn cael ei chynnal ar 10 Hydref.

Mae'r Ymgyrch yn Erbyn Gwaredu Mwd Hinkley wedi dadlau nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol, a bod y samplau a brofwyd yn annigonol yn ôl rheolau rhyngwladol.

Fodd bynnag, mae EDF Energy a CNC wedi datgan bod profion annibynnol wedi profi nad yw'r gwaddod yn peri unrhyw risg.

Am fod aber Hafren yn ardal gadwraeth arbennig, mae'r datblygwyr wedi dadlau bod y gwaddod angen cael ei waredu'n lleol, felly'r safle ger Caerdydd - sydd â thrwydded - oedd fwyaf addas.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth cannoedd ynghyd i brotestio y tu allan i'r Senedd ddiwedd Awst

Mae nifer o bobl wedi arwyddo deisebau ar-lein yn galw am fwy o brofion, wedi i ymgyrchwyr godi pryderon y gallai'r mwd gynnwys olion o wastraff ymbelydrol o'r hen adweithyddion Hinkley A a B.

Dywedodd EDF mai'r "mymryn lleiaf o'r gwaddod sydd wedi bod yn agos at ymbelydredd, tipyn yn is na'r trothwy a fyddai'n gofyn am asesiadau manylach, ac nid yw'n agos o gwbl at gyrraedd dos ymbelydrol a fyddai'n gallu effeithio ar iechyd pobl ac ar yr amgylchedd".

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am ymchwiliadau pellach, gan honni y gallai osod cynsail peryglus.

Mae llefarydd ar ran y llywodraeth hefyd wedi pwysleisio bod CNC wedi gwneud eu penderfyniad "yn seiliedig ar gyngor arbenigol" a bod profion ac asesiadau wedi dangos bod y gwaddod yn ddiogel, ac "nad oes yna risg ymbelydrol i iechyd dynol na'r amgylchedd".

'Dim bygythiad' i'r amgylchfyd

Yn ôl datganiad gan EDF Energy, mae'r penderfyniad i roi'r gorau i'r achos yn "newyddion da i brosiect sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol ynni yn y DU".

Noda'r llefarydd bod y prosiect yn darparu gwaith i 25 cwmni Cymreig a 1,000 o weithwyr.

Pwysleisiodd: "Fe wnaeth EDF bob dim a ofynnwyd wrth geisio am drwydded i waredu'r mwd yn aber Hafren.

"Nid yw'r mwd yn wahanol i'r mwd sydd yn unrhyw le arall ar hyd yr arfordir, ac mae wedi cael ei brofi'n drylwyr gan arbenigwyr annibynnol a gadarnhaodd nad yw'n peri unrhyw fygythiad i bobl na'r amgylchedd.

"Nid yw'r gwaddod yn cael ei ystyried yn ymbelydrol dan gyfraith y DU."