Cyn-AS Llanelli Denzil Davies wedi marw yn 80 oed

  • Cyhoeddwyd
Denzil Davies

Mae'r cyn-aelod seneddol Denzil Davies wedi marw yn 80 oed.

Treuliodd 35 mlynedd yn Nhŷ'r Cyffredin yn cynrychioli Llanelli fel AS dros y Blaid Lafur.

Bu'n weinidog yn y Trysorlys yn yr 1970au o dan lywodraeth James Callaghan.

Yn ystod cyfnod Llafur yn yr wrthblaid bu'n llefarydd y blaid ar Gymru ac ar amddiffyn.

'Dyn tawel o allu arbennig'

Yn wreiddiol o Gynwyl Elfed, fe wasanaethodd etholaeth Llanelli am 35 mlynedd gan roi'r gorau i'w sedd yn 2005, a chael ei olynu gan Nia Griffith.

"Roedd o'n ddyn tawel o allu arbennig," meddai AS Cwm Cynon, Ann Clwyd wrth BBC Cymru.

"Dyn hoffus iawn. Dyn dawnus iawn. Dyn dewr," meddai ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

"Cafodd radd gyntaf yn Rhydychen, aeth o mewn i'r gyfraith a dwi'n meddwl byddai wedi bod yn llwyddiannus yn y gyfraith pe bai wedi parhau yn y gyfraith, roedd o'n alluog iawn, mae'n newyddion trist iawn."

Disgrifiad,

Nest Williams sy'n bwrw golwg yn ôl dros fywyd Denzil Davies ar y Post Cyntaf

Disgrifiodd y Prif Weinidog Carwyn Jones Mr Davies fel "dyn egwyddorol a deallusol", gan ddweud bod ei farwolaeth yn "golled drasig i Gymru, Llanelli ac i'r mudiad Llafur".

Dywedodd Aelod Cynulliad Llanelli, Lee Waters, fod Mr Davies yn "ddyn gwych a wnaeth gyfraniad mawr".

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, y byddai'n cofio ei "gyfraniad tuag at y blaid".

Cyfeiriodd hefyd at ei "allu anhygoel e o ran dealltwriaeth am y sector ariannol" a'i wybodaeth am economeg.

'Colled ar ei ôl'

Yn ôl AS Llanelli, Nia Griffiths, roedd Mr Davies yn "seneddwr ardderchog", gan gyfuno ei "ddealltwriaeth a'i allu i siarad yn gyhoeddus gyda'i reolaeth o siambr Tŷ'r Cyffredin".

"Ar lefel bersonol, roedd e'n ddiymhongar ac wastad yn mynd i ymdrech i drafod â phobl," meddai.

Ychwanegodd Ms Griffiths ei bod yn "ddiolchgar iawn iddo am y cymorth a'r cyngor a gefais i ganddo pan roeddwn i'n AS newydd. Bydd colled ar ei ôl".