Bag aur yn gwerthu am bron i £4,000 mewn ocsiwn
- Cyhoeddwyd
Gwerthodd bag a fu bron a chael ei daflu i'r bin am £3,900 mewn ocsiwn.
Daeth dwy chwaer o Ddinbych o hyd i'r bag yn eu garej, wedi i un ohonynt ei etifeddu gan ddyn yr oedd arfer gofalu amdano.
Roedd y bag art deco wedi cael ei wneud o aur Americanaidd 15 carat ac yn dyddio o 1913.
Cafodd ei werthu i brynwr preifat mewn ocsiwn yn Bishton Hall yn Sir Stafford ddydd Mercher.
Roedd y bag wedi cael ei gadw yn garej Linda Pritchard, am saith mlynedd, wedi i'w chwaer Margaret, ei etifeddu oddi wrth Gwyn Jones.
Perchennog y bag oedd gwraig Mr Jones, sef Dora, a oedd yn gymdeithaswraig gyfoethog a fu ar fordeithiau ar longau y Queen Mary a'r Queen Elizabeth.
Ynghyd â'r bag, etifeddodd Margaret Pritchard nifer o ffotograffau, llythyrau a bwydlenni o'r mordeithiau hynny.
Peidio â thaflu dim!
Dywedodd yr arwerthwr, Charles Hanson, ei fod wrth ei fodd o weld y bag yn cael ei werthu.
"Mae'n fag hardd â hanes cyfoethog iddo. Mae'n dangos bod hi'n bosib dod o hyd i drysorau arbennig yn y llefydd mwyaf annisgwyl - mewn garej lychlyd yn yr achos yma!
"Mae'n well peidio â thaflu dim, rhag ofn!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2018