Carcharu menyw am wneud honiad ffug o dreisio

  • Cyhoeddwyd
sophie skinnerFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Sophie Skinner yn cyrraedd y llys yng Nghasnewydd

Mae menyw 25 oed wedi cael ei charcharu am 18 mis am wneud honiad ffug iddi gael ei threisio.

Roedd Sophie Skinner o Lan-ffwyst yn Sir Fynwy wedi gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod bywyd dyn ifanc wedi ei "droi ben i waered" gan y cyhuddiad yn 2016.

Dywedodd y Barnwr Daniel Williams fod y fam i dri wedi dangos "dim edifeirwch o gwbl" wrth ei dedfrydu i 18 mis o garchar.

Dywedwyd yn y llys fod Skinner wedi bod am noson allan yn Y Fenni ar 4 Mehefin 2016 yn "chwilio am sylw".

Fe'i gwelwyd ar gamerâu CCTV yn mynd tuag at Damon Osborne a'i gofleidio. Roedd Mr Osborne yn disgwyl am bas adre.

Roedd Mr Osborne yn 18 oed ar y pryd.

Ychwanegodd y barnwr: "Mae'r lluniau CCTV yn dangos yn glir mai chi wnaeth y cam cyntaf i gael rhyw gydag e. Pan wnaeth gytuno yn y diwedd i wneud, fe ddywedoch chi wrtho y gallai fod mewn trafferth am gael rhyw gyda chi."

Clywodd y llys fod Skinner wedyn wedi gwneud honiad ffug iddi gael ei threisio wrth staff yn nhafarn Wetherspoons gerllaw, ac fe gafodd ei chyfweld gan yr heddlu.

Yn dilyn adolygiad o'r dystiolaeth gan yr heddlu, fe gafodd penderfyniad i wneud nid yn unig i beidio erlyn Mr Osborne, ond i arestio Skinner.

Mewn datganiad i'r llys dywedodd Damon Osborne: "Cefais fy nghyhuddo o dreisio gan Sophie Skinner ac fe wnaeth hynny droi fy mywyd ben i waered.

"Cefais fy nghloi mewn cell am 17 awr.

"Rwy'n dal i feddwl am yr hyn allai fod wedi digwydd oni bai am y camerâu CCTV - fe fyddai pobl wedi credu Sophie Skinner ac ni fyddwn i'n rhoi'r datganiad yma nawr oherwydd fe fyddwn i yn y carchar."

Disgrifiodd y barnwr honiadau Skinner fel rhai oedd yn "amlwg yn ffug".

"Rydych chi'n parhau i wadu," meddai. "Does gennych ddim cydymdeimlad â'r dioddefwr a dim edifeirwch o gwbl.

"Fel mae'r llys wedi dweud o'r blaen, mae treisio yn drosedd wirioneddol ffiaidd ac fe ddylai dioddefwyr treisio gael eu trin gyda phob ystyriaeth posib.

"Ar y llaw arall, gall cyhuddiad anwir o dreisio gael goblygiadau brawychus."