Rwmania dan-21 2-0 Cymru dan-21

  • Cyhoeddwyd
Rob PageFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth tîm dan-21 Cymru golli am y pedwerydd tro yn eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2019 ddydd Gwener, wrth i Rwmania eu curo o 2-0.

Roedd gobeithion tîm Rob Page o gyrraedd y bencampwriaeth ar ben yn dilyn colled o'r un sgôr yn erbyn Portiwgal ym mis Medi.

Fe wnaeth goliau gan Dennis Man a George Puscas sicrhau'r fuddugoliaeth i Rwmania.

Bydd ymgyrch Cymru yn dod i ben gyda gêm yn erbyn Y Swistir ar 16 Hydref.