Dyn wedi marw ar ôl disgyn i farina Penarth

  • Cyhoeddwyd
Penarth coastguardFfynhonnell y llun, Penarth Coastguard

Mae dyn 32 oed wedi marw ar ôl disgyn i'r dŵr ym marina Penarth ym Mro Morgannwg nos Wener.

Cafodd dau berson eu tynnu o'r dŵr wrth i law trwm a gwyntoedd cryfion Storm Callum daro de Cymru.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Penarth fod un o'r ddau yn anymwybodol ar ôl cael ei dynnu o'r dŵr am tua 22:00 nos Wener, 12 Hydref.

Bu farw'r dyn o Benarth yn yr ysbyty yn ddiweddarach, ond ni chafodd menyw 35 oed o'r ardal unrhyw anafiadau.

Dywedodd Heddlu'r De nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ond mae swyddogion sy'n ymchwilio yn apelio am dystion i'r digwyddiad.