Dim Gareth Bale ar gyfer gêm Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yw prif sgoriwr tîm cenedlaethol y dynion erioed, gyda 30 gôl

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd Gareth Bale yn holliach ar gyfer y gêm Cynghrair y Gwledydd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn nos Fawrth.

Fe fethodd Bale, 29 oed, a chwarae yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen nos Iau ddiwethaf - gêm a wnaeth Cymru ei cholli o 4-1.

Mae'r Gymdeithas wedi cadarnhau bod Bale wedi dychwelyd i Sbaen at ei dîm Real Madrid.

Mae gan dîm Real ddwy gêm bwysig yn y La Liga a Chynghrair y Pencampwyr yn ystod yr wyth diwrnod nesaf.

Cyn i'r Gymdeithas gadarnhau absenoldeb Gareth Bale roedd y rheolwr Ryan Giggs eisoes wedi galw Gwion Edwards, sy'n chwarae i Ipswich, i'r garfan ddydd Gwener.

Ar y pryd dywedodd un o gyd-chwaraewyr eraill Bale, y chwaraewr canol cae Aaron Ramsey y bydd hi'n gêm anodd "heb Gareth".

"Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw e i ni gan ei fod wedi sgorio cymaint o goliau", meddai Ramsey.

"Ond rydyn ni'n edrych ymlaen at yr her hon a gobeithio y gallwn ni ddechrau ennill gemau eto."

Mae'r Gymdeithas eisoes wedi cadarnhau fod Ethan Ampadu a Chris Mepham wedi eu hanafu, ac mae Kieron Freeman hefyd wedi cael ei ychwanegu at y garfan.