Galw am symud rhwystr ar lwybr yr arfordir yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Bydd adolygiad yn cael ei gynnal i'r defnydd o rwystrau siâp A ar Lwybr Arfordir Cymru gan eu bod yn atal defnyddwyr cadair olwyn rhag cyrraedd llecynnau prydferth.
Daw'r adolygiad wedi cwynion i Gyngor Sir y Fflint.
Bwriad gwreiddiol y math yma o ffrâm oedd rhwystro beiciau modur rhag teithio ar y llwybr arfordirol.
Dywed Fforwm Anabledd Sir y Fflint eu bod yn galw am newid ers nifer o flynyddoedd.
Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn ceisio cael y cydbwysedd cywir rhwng sicrhau mynediad a diogelwch.
Mae'r cyngor hefyd yn dweud y byddant yn adolygu y defnydd o gatiau moch - math arall o glwyd sy'n cael ei ddefnyddio ar lwybrau cerdded.
'Atyniadau eraill yn well'
Dywed Sarah Thatcher o'r Wyddgrug fod hi'n amhosib iddi fynd am dro ar y llwybr arfordirol yn Nhalacre ar ei phen ei hun gan nad yw'n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
"Hyd yn oed gyda chymorth, roedd yn hynod o anodd i fi gael y gadair trwy'r rhwystr," meddai.
Mae'n dweud bod atyniadau lleol eraill, fel Parc Gwledig Dyfroedd Alun yn Wrecsam a Pharc Loggerheads yn Sir Ddinbych yn llawer gwell am nad oes rhwystrau.
Dywedodd Helen Mrowiec, o Wasanaethau Gwledig Sir y Fflint fod y rhan fwyaf o bobl yn medru defnyddio'r llwybr arfordirol, ond eu bod yn derbyn y gallai hynny fod yn anodd i gadeiriau mwy a sgwteri.
"Rhaid i ni ystyried anghenion pob defnyddiwr a chadw'r llwybr yn ddiogel," meddai. "Rhaid penderfynu a fydd symud y rhwystrau yn cadw'r llwybr yn ddiogel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2014
- Cyhoeddwyd5 Mai 2012