"Mae fy mabi wedi ei chladdu 4,000 milltir i ffwrdd"

  • Cyhoeddwyd
Chioma UdeoguFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Chioma Udeogu: Bwrdd iechyd yn cydnabod methiannau

Mae Chioma Udeogu o Nigeria yn gobeithio un diwrnod y bydd hi'n gallu dychwelyd i Gymru er mwyn ymweld â bedd ei babi.

Roedd ei merch, Favour, yn farw-anedig gyda'r bwrdd iechyd yn cyfaddef fod yna fethiannau wedi bod yn ystod y cyfnod gofal yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant yn Ionawr 2017.

Cred Mrs Udeogu y byddai ei phlentyn yn dal yn fyw pe bai staff yn yr ysbyty wedi gwrando arni a'i chri am gymorth.

"Ond mae fy mabi wedi ei chladdu 4,000 milltir i ffwrdd."

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi cydnabod fod yna fethiannau wedi bod yn yr achos.

Fe wnaeth ymchwiliad yn dilyn marwolaeth Favour ddod i'r casgliad fod bydwragedd wedi methu a chynnal rhai o'r profion angenrheidiol am 12 awr.

A phan gafodd y profion eu cynnal doedd dim modd clywed curiad calon y babi.

"Fe ddywedodd yr ymgynghorydd wrthyf roedd o'n sori ond roedd fy mabi wedi mynd," meddai Mrs Udeogu, oedd yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru ar y pryd.

Flowers on grave
Disgrifiad o’r llun,

Mae Favour wedi ei chladdu ym mynwent Glyntaf

Mae ei babi wedi ei chladdu ym mynwent Glyntaf ym Mhontypridd.

Fe wnaeth Mrs Udeogu rannu ei stori gyda BBC Cymru yn sgil cyhoeddiad diweddar Cwm Taf eu bod yn ymchwilio i 20 achos o fabanod marw-anedig, a chwe achos o fabandod a fu farw yn fuan ar ôl cael eu geni mewn unedau mamolaeth.

Roedd Mrs Udeogu wedi bod yn feichiog am 41 wythnos gyda'i phlentyn cyntaf pan ddechreuodd gael poenau genedigaeth. Ffoniodd yr ysbyty am 05:15 ar 14 Ionawr 2017.

Ar ôl i gofrestrydd wrando ar guriad calon y babi dywedodd y dylid cael cynllun monitro a gofal ac y gallai Mrs Udeogu fynd adref.

Mrs UdeoguFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chioma Udeogu yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru

Ond cafodd ddychwelyd i'r ward ar ôl iddi ddod yn amlwg fod y fam yn poeni am y sefyllfa.

Er iddi ofyn am gymorth yn gyson, ni chafodd profion eu cynnal eto am 12 awr.

Pan gafodd prawf ei gynnal doedd yna ddim son am guriad calon, ac am 23:20 cafodd Mrs Udeogu wybod fod ei merch wedi marw.

"Roeddwn wedi torri nghalon yn llwyr."

'Methu yn eu dyletswyddau'

Fe wnaeth y fam ddychwelyd i Nigeria i fyw ym mis Ebrill y flwyddyn honno.

"Dim ond atgofion sydd gennyf nawr yn Nigeria... byddwn yn hoffi dod yn ôl i ymweld â'i bedd," meddai.

Fe wnaeth ymchwiliad gan y bwrdd iechyd ddod i'r casgliad fod bydwragedd wedi methu yn eu dyletswyddau gofal.

Fisoedd ar ôl cynnal arolwg fe wnaeth y bwrdd ysgrifennu at gyfreithwyr Mrs Udeogu yn ymddiheuro.

Roedd y bwrdd yn derbyn nad oedd y gofal yn cyrraedd lefel dderbyniol, ond nad oedd modd cadarnhau a fyddai'r babi wedi byw pe bai wedi cael ei geni'n gynt.

Royal Glamorgan Hospital sign
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ymddiheuro i Mrs Udeogu

"Rwy'n credu pe bai'r monitro wedi bod yn gywir yn yr ysbyty, byddwn heb golli'r babi," meddai Mrs Udeogu.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd: "Ym mhob achos lle mae yna fethiannau mae ymddiheuriad yn cael ei wneud ac mae yna gynnig o gamau priodol yn cael eu gwneud.

"Mae'r arolwg rydym wedi ei gyhoeddi i'r ymchwiliad a fu i rai achosion hanesyddol yn amlwg wedi achosi peth pryder.

"Ond rydym am sicrhau menywod sy'n defnyddio ein gwasanaeth mamolaeth fod bob mesur yn ei le i sicrhau eu bod yn derbyn y gofal gorau posib."