'Shwmae' a chyfarchion eraill

  • Cyhoeddwyd
Poster ymgyrch shwmae sumaeFfynhonnell y llun, Shwmae.cymru

Ar ddiwrnod Shwmae Su'mae i hybu defnyddio'r Gymraeg, sut fyddwch chi'n cyfarch pobl heddiw? 'Helo', 'bore da', 'su mai', 'shwd î chi', 'haia', 'iown', 'shw' 't byt'?

Neu fe allech chi fynd yn retro a dewis hen gyfarchiad fel 'henffych' neu 'hawddamor'.

Fel y clywodd gwrandawyr Radio Cymru, yn yr hen amser fe fyddai enwau yn cael eu treiglo wrth eu cyfarch hefyd.

Felly "Bore da, Ddafydd" neu "Henffych Gatrin" fyddai'r arferiad.

Dywedodd yr awdur a'r bardd Mihangel Morgan ar raglen Aled Hughes fod hyn i'w weld yng ngwaith beirdd y canol oesoedd.

"Dwi'n meddwl ei fod yn drueni fod y treiglad cyfarchiol wedi darfod," meddai Mihangel Morgan.

"Dwi'n meddwl ddylen ni atgyfodi 'henffych' hefyd yn lle y derbyn y gair 'helo' yn slafaidd, sy'n air estron.

"Mae henffych yn mynd yn ôl i'r 10fed ganrif... Mae rhai pobl yn dal i'w ddefnyddio yn eironig fel jôc efallai ond mae'n air da!"

Dydi 'hawddamor' ddim mor hen â 'henffych' meddai Mihangel Morgan - ac mae'n golygu rhywbeth tebyg i 'iechyd da'.

Helo helo

Mae'n debyg bod 'helo' yn tarddu o'r gair 'hail' yn Saesneg.

"Roedd pobl yn gorfod dweud 'hail' wrth ei gilydd ar gefn ceffylau wrth farchogaeth," meddai Mihangel Morgan "ac wedi ychwanegu 'o' at 'hail'. Wedyn mae modd gweld sut daeth hynny'n 'hello'."

Roedd yna hen gri, 'halloo'' oedd yn cael ei ddefnyddo yn Saesneg wrth hela sydd i'w weld yng ngwaith Shakespeare a beirdd Saesneg eraill, meddai Mihangel Morgan.

Datblygodd drwy wahanol sillafiadau a rhoi 'helo' inni.

Mae'n debyg mai dyfeisio'r ffôn wnaeth ledaenu'r gair 'hello' dros y byd.

Ond fe allai pethau wedi bod yn wahanol iawn.

"Roedd dyfeisydd y ffôn, Alexander Grahame Bell, wedi ffafrio 'ahoy' fel cyfarchiad ac wrth gwrs mae Mr Burns yn y Simpsons yn dal ddweud 'ahoy!," meddai Mihangel Morgan.

Disgrifiad,

Tafodiaith y Cymry

Hefyd o ddiddordeb: