O ble daw'r gair 'cwtsh'?
- Cyhoeddwyd
I rai mae'r gair 'cwtsh' yn eu hatgoffa o aelwyd glyd Gymreig, o gysur mam neu nain annwyl, o gynhesrwydd cartref - yn enwedig yn ne Cymru.
Mae erthyglau wedi eu hysgrifennu am ba mor arbennig yw'r gair yma i Gymru.
Mae'n cael ei gymharu â'r gair Sgandinafaidd hygge sy'n cyfleu clydwch cartrefol a theimladau cynnes a bodlon.
A diolch i sgriptiau Gavin and Stacey a'r nifer o weithiau mae'r gair wedi ei wnïo ar glustogau ar gyfer siopau anrhegion, mae'n air poblogaidd i gyfleu hunaniaeth Gymreig i rai erbyn hyn, yn Gymraeg a Saesneg.
'Dydy pawb ddim yn cytuno, a nifer o ogleddwyr yn teimlo mai gair deheuol ydy o.
Mae rhai'n teimlo ei fod wedi ei ddefnyddio hyd syrffed hefyd, ond yn 2007 dyma oedd hoff air y genedl yn ôl un arolwg.
A chafodd ei ddewis gan Alex Jones fel ei hoff air yn ymgyrch hoff eiriau Cymru Fyw 2018.
Mae sillafiad yn bwysig!
Ond does 'na ddim byd yn codi gwrychyn rhai siaradwyr Cymraeg yn fwy na phan mae'r gair yn cael ei sillafu efo 'ch'.
"Sillafiad Saesneg yw 'cwtch'!" yw'r gri, "dydi'r cyfuniad o lythrennau 'tch' ddim yn gwneud y sŵn yna yn y Gymraeg!"
Y casgliad yw mai 'cwtsh' yw'r sillafiad Cymraeg cywir, tra bod 'cwtch' yn sillafiad Saesneg.
Daeth cyfrif Twitter Hanes Cymraeg Caerdydd o hyd i gyfeiriad at y gair , dolen allanolmewn dogfen o 1840 a'r 'sh' sydd yn y sillafiad.
Mae dyfynnu'r enw am ardal sydd bellach yn rhan o Farina Penarth o'r enw Cwtsh-y-Cŵn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Beth mae'r geiriaduron yn ei ddweud?
Mae'r gair yng ngeiriadur Saesneg Rhydychen, dolen allanol, Oxford English Dictionary, ers 2005.
Yn y geiriadur hwnnw, dywedir mai benthyciad o'r Gymraeg ydy 'cwtch' ac mai'r sillafiad Cymraeg gwreiddiol yw 'cwts'.
Nodir bod ei ddefnydd yn Lloegr yn mynd yn ôl mor bell â'r 18fed ganrif yn Swydd Gaerloyw ('cooch').
Yng ngeiriadur Prifysgol Cymru, dolen allanol, y sillafiad 'cwts' sy'n dod gyntaf ac wedyn 'cwtsh' a 'cwyts'.
Ei ystyr fel enw yn ôl y geiriadur yw lle i orwedd, yn aml i anifail fel ci, cuddfan neu gongl fechan, a'i ddefnydd yn bennaf yn y de e.e. cwtsh glo, cwts tatws a cwts dan staer.
Benthyciad o'r Saesneg?
Ond, yn ôl geiriadur y Brifysgol, benthyciad yw'r gair o Saesneg Canol - 'couche' sydd erbyn hyn yn 'couch'.
Daw'r gair hwnnw yn ei dro o'r Ffrangeg, yn golygu lle i orwedd neu wely neu ffau neu guddfan i anifail. Fel berf mae'n golygu 'gorwedd' neu 'gysgu' .
Felly ydi o'n air Cymraeg o gwbl?
Mae'n edrych felly fel pe bai tarddiad gwreiddiol y gair a sut daeth i Gymru yn niwlog ac efallai'n egluro pam fod amwysedd o ran ei sillafu.
Mae pob iaith fyw yn benthyg a pherchnogi geiriau o ieithoedd eraill ac efallai mai dyna sydd wedi digwydd yma.
Ond byddai'n anodd iawn perswadio llawer o Gymry bellach nad eu gair nhw, a nhw'n unig, ydy 'cwtsh'!
Efallai o ddiddordeb: