Gwrthdrawiad Casnewydd: Dyn yn pledio'n ddieuog

  • Cyhoeddwyd
Canol Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Sophie Poole ac Emma Nichols anafiadau difrifol yn y digwyddiad

Mae dyn o Gasnewydd wedi gwadu taro dwy ddynes yn fwriadol ar ôl ffrae ar noson allan yng nghanol yn y dref.

Plediodd MacCauley Cox, 19, yn ddieuog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol y tu allan i glwb nos y Courtyard ar 29 Ebrill eleni.

Mae yna honiadau fod Mr Cox wedi gyrru'r car yn fwriadol tuag at ddyn yn dilyn ffrae, ond fe wnaeth o fethu'r dyn a tharo dwy ddynes oedd yn eistedd ar y palmant.

Fe gafodd Sophie Poole ac Emma Nicholls anafiadau difrifol yn y digwyddiad.

Cafodd Sophie Poole losgiadau difrifol ac roedd angen impyn croen arni, ac fe gafodd Emma Nicholls rwygiadau i'w dueg (spleen) a briwiau drwg i'r ffêr.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn parhau yn Llys y Goron Casnewydd

Gwelodd y rheithgor, yn Llys y Goron Casnewydd, fideo CCTV o'r digwyddiad ar ffordd Cambrian yn ogystal â fideo o'r car yn gadael y safle - cyn iddo gael ei ddarganfod wedi ei losgi mewn rhan arall o'r dref y bore wedyn.

Daeth yr heddlu o hyd i Mr Cox mewn atig yng Nghasnewydd yn ddiweddarach.

Cyfaddefodd Mr Cox mai ef oedd yn gyrru'r cerbyd, ond roedd yn gwadu ceisio achosi niwed difrifol.

Mae Mr Cox yn gwadu dau gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol ac mae'r achos yn parhau.