Brexit: Rhwystrau'n 'ergyd farwol' i bysgota

  • Cyhoeddwyd
Cwch pysgotwr yn Porth Colmon
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwyafrif y cychod pysgota yng Nghymru yn llai na 10m o faint

Mae masnach heb rwystrau i farchnadoedd yn yr Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i ddiwydiant pysgota Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y gallai rhwystrau sydd ddim yn dollau fod yn ergyd farwol i'r diwydiant.

Mewn adroddiad daeth y Pwyllgor i'r casgliad y gallai'r oedi lleiaf i allforwyr pysgod cregyn gael effaith fawr iawn ar hyfywedd eu busnesau.

Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth y DU wneud popeth posib i sicrhau bod masnachu mor ddirwystr â phosib.

Fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai a ddywedodd: "Byddai unrhyw newid i dollau ar fasnach o fewn yr UE ar ôl Brexit ac unrhyw wiriadau hylendid o'n cynnyrch ar y ffiniau yn her enfawr.

"Bydd diweddglo ffafriol i drafodaethau Brexit ar y ddau fater yma yn hanfodol i bob sector pysgota yng Nghymru ac i gymunedau'r arfordir."

Disgrifiad o’r llun,

Miek Hedges AC yw cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Aeth y pwyllgor ymlaen i ddweud nad yw Cymru'n derbyn ei chyfran deg o gwota pysgota'r DU, sef faint o bysgod sy'n gallu cael eu dal bob blwyddyn gan warchod y stoc bysgod.

Pan mae'r cwota'n cael ei rannu, mae Cymru'n cael 1% o gymharu â chenhedloedd eraill y DU.

Mae hyn oherwydd nad yw dosraniad y cwota yn cynnwys faint o bysgod sy'n cael eu dal mewn llongau sy'n llai na 10m o faint, a dyna yw mwyafrif y llongau lysgota yng Nghymru.

Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i frwydro am gynnydd sylweddol yn y cwota, ac i ddatblygu strategaeth ar gyfer pysgodfeydd Cymru.

Dywedodd Mike Hedges, cadeirydd y pwyllgor: "Rydym yn teimlo bod diwydiant pysgota Cymru ar drothwy newid mawr.

"Gallai rhwystrau heblaw am dariffau fod yn ergyd farwol i ddiwydiant sydd eisoes dan bwysau ac sy'n dioddef oherwydd dyraniad cwota annheg gan Lywodraeth y DU.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud wyth argymhelliad yn ei adroddiad, Effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth uchelgeisiol gyda ffocws i dyfu pysgodfeydd Cymru, a sicrhau bod y safonau amgylcheddol uchaf yn cael eu cynnal;

  • Nid yw'r dyraniad cwota i Gymru o dan Goncordat Pysgodfeydd y DU yn 2012 yn ddyraniad teg ac mae'n cyfyngu ar ddatblygiad pysgodfeydd Cymru;

  • Dylai Llywodraeth Cymru geisio ail-negodi Concordat Pysgodfeydd y DU, gyda'r nod o sicrhau cynnydd yn y dyraniad cwota;

  • Dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl i'r Pwyllgor o fewn y 12 wythnos nesaf ar drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi pysgodfeydd yn y dyfodol.