Cymru i 'arwain y byd' mewn cydraddoldeb rhyw?
- Cyhoeddwyd
![John Griffiths, Sarah Rees ac Anna Whitehouse](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/18645/production/_103890999_cydraddoldeb.jpg)
John Griffiths AC yn cael ei holi gan yr ymgyrchwyr Sarah Rees ac Anna Whitehouse
Fe all Cymru "arwain y byd" ar gydraddoldeb rhwng dynion a merched os ydy Llywodraeth Cymru'n derbyn argymhellion newydd, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae'n dilyn adroddiad gan un o bwyllgorau'r Cynulliad, dolen allanol sydd wedi galw am "newid diwylliannol" er mwyn cael cydraddoldeb.
Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod gweithio anhyblyg yn effeithio merched yn fwy na dynion, ac yn honni ei fod yn gwaethygu'r anffafriaeth mae merched yn ei wynebu yn ystod cyfnod mamolaeth.
Gall patrymau gwaith hyblyg olygu amryw o amodau gwahanol, o gwtogi oriau gwaith wythnosol, i weithio dim ond ychydig o fisoedd y flwyddyn.
Yn ddiweddar fe ddywedodd prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, ei fod wedi penderfynu blaenoriaethu cydraddoldeb rhwng y rhywiau a'i fod am i Lywodraeth Cymru fod ar "flaen y gad" yn rhyngwladol.
Cafodd yr AC John Griffiths - cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth leol a Chymunedau - ei holi'r wythnos diwethaf gan ddwy o ymgyrchwyr o blaid hawliau i ferched.
Ynglŷn â sylwadau Mr Jones, dywedodd Mr Griffiths, ei bod yn falch o'u clywed ond "yn aml iawn, mae'r rhethreg yn haws na'r newid ymarferol".
![Sarah Rees a'i merch](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/180DE/production/_102162589_01582147-9a4f-49dc-b879-5fcad4a1e7bb.jpg)
Mae Sarah Rees hefyd yn galw am gynnig gofal am ddim i blant sy'n iau na thair oed
Dywedodd Sarah Rees, ymgyrchydd o Benarth cafodd ei gwneud yn ddi-waith tra ar gyfnod mamolaeth: "Gall Cymru ddathlu mai dyna'r wlad gyntaf i ddod â chostau ar fagiau plastig a'r effaith a gafodd hynny ar yr amgylchedd.
"Beth os allai Cymru arwain at wneud Caerdydd yn ddinas hyblyg cyntaf y byd, er enghraifft? Gallem ni godi Cymru at y gorau yn y byd o ran cydraddoldeb rhyw."
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod eisoes yn cyflogi staff yn hyblyg.
Cyfyngiadau cyfreithiol
Problem arall gafodd ei nodi gan y panel oedd y pwysau ar ddynion yn hytrach na menywod i aros yn y gwaith yn dilyn genedigaeth eu plentyn.
Ymhlith argymhellion yr adroddiad Wrth eich gwaith, dolen allanol yw y dylai Llywodraeth Cymru hysbysebu swyddi yn y sector cyhoeddus fel "hyblyg rhagosodedig".
Pan ofynnwyd i Mr Griffiths am y cynnig i orfodi pob cyflogwr i gyhoeddi eu cyfraddau cadw mamolaeth, dywedodd y byddai hynny "yn mynd i ddigwydd".
"Rydym yn gyfyngedig oherwydd nid yw cyfraith cyflogaeth wedi ei ddatganoli i Gymru, ond mae gennym ni lawer o gamau," ychwanegodd.
Dywedodd ei bod hi'n bosib i Lywodraeth Cymru wneud gweithio hyblyg yn orfodol i gwmnïau preifat sy'n cystadlu am gytundebau gyda nhw.