Robert Croft yn gadael Clwb Criced Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Robert Croft
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Robert Croft chwarae dros Forgannwg nôl yn 1989

Mae Robert Croft wedi gadael ei rôl fel prif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg wedi bron i dair blynedd yn y swydd.

Mewn datganiad, dywedodd Croft ei fod wedi gallu "gwireddu breuddwyd" drwy chwarae, ac yna hyfforddi'r clwb.

Fe ymunodd â Morgannwg fel chwaraewr yn 1989, ac ef oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd y garreg filltir ddwbl o 10,000 o rediadau a 1,000 o wicedi.

Chwaraeodd 21 o gemau prawf a 50 o gemau undydd i Loegr.

Daw'r cyhoeddiad am ei ymadawiad yn dilyn adolygiad annibynnol allanol ar dymor y clwb.

Fe orffennodd Morgannwg ar waelod ail adran Pencampwriaeth y Siroedd y tymor diwethaf.

Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y clwb fod Hugh Morris yn camu o'i rôl fel cadeirydd, ond yn parhau fel prif weithredwr.

Ar y pryd, dywedodd y clwb y byddai mwy o gyhoeddiadau yn yr wythnosau i ddod.