Ailgyflwyno cais am sied i 32,000 o ieir ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae teulu ym Mhowys wedi cyflwyno cais i adeiladu sied fyddai'n dal 32,000 o ieir, bron i flwyddyn ar ôl i'r cais gwreiddiol gael ei wrthod yn dilyn gwrthwynebiad lleol.
Mae Gareth a Delyth Woosnam eisoes yn ffermio defaid a gwartheg ar eu fferm ger Y Drenewydd, ond maen nhw'n gobeithio gallu arallgyfeirio.
Cafodd y cais gwreiddiol ei wrthod ym mis Tachwedd 2017 oherwydd pryderon am yr effaith ar ffyrdd a'r amgylchedd lleol.
Dywedodd gwrthwynebwyr y cais gwreiddiol eu bod nhw'n bwriadu gwrthsefyll y cynllun diweddaraf hefyd.
Yn ôl gwrthwynebwyr mae'r cynllun yn "anaddas" ar gyfer ardal Cefn Mawr - ardal y maen nhw'n ei disgrifio fel "hafan".
Mewn datganiad dywedodd asiant o Roger Parry and Partners: "Mae'r teulu yn weithwyr caled ac yn gobeithio datblygu eu huned i ddarparu busnes amrywiol all gynnal y teulu a gwneud defnydd llawn o'r llafur sydd ar gael ar y fferm.
"Mae'r teulu wedi sylwi y bydd y diwygiad i Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE yn arwain at ostyngiad i incwm ffermydd... a byddai'r cynllun newydd yn helpu sicrhau dyfodol cynaliadwy a chaniatáu olyniaeth deuluol."
Byddai'r adeilad newydd yn gorchuddio tua 30,000 troedfedd sgwâr, ond ychwanegodd y datganiad na fyddai'r cynllun yn cael effaith negyddol ar gynefinoedd lleol.
Dywedodd gwrthwynebwyr y cynllun wrth wasanaeth cofnodi democratiaeth leol eu bod nhw wedi nodi'r cais newydd, a'u bod yn barod i frwydro yn ei erbyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2018
- Cyhoeddwyd12 Medi 2018
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018