Cwblhau £30m o welliannau i Amgueddfa Werin Sain Ffagan

  • Cyhoeddwyd
Prif adeilad Sain FfaganFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae prif fynedfa'r amgueddfa wedi cael gwedd newydd

Mae Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yn dathlu cwblhau gwaith i weddnewid y safle.

Cafodd bron i £30m ei wario dros chwe blynedd i godi adeiladau newydd a gwella'r arlwy i ymwelwyr.

Sain Ffagan ydy atyniad treftadaeth fwyaf poblogaidd Cymru, ac mae'n dathlu ei 70 mlwyddiant eleni.

Bydd yr orielau yn y brif fynedfa newydd a'r Gweithdy yn caniatáu i'r cyhoedd ddod yn agosach fyth at gasgliad yr amgueddfa.

Bydd modd ymweld â'r lleoliadau newydd o ddydd Gwener 19 Hydref ymlaen, a bydd hefyd lle i blant ysgol aros dros nos o fis Ebrill 2019.

'Esblygu'

Dywedodd David Anderson, cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru, bod y safle yn "esblygu".

"Yn yr un modd â stori Cymru, mae stori'r Amgueddfa yn dal i esblygu," meddai. "Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth fwyaf poblogaidd Cymru, ac mae ganddi le arbennig yng nghalonnau'r Cymry.

"Amgueddfa'r bobl yw hi, sy'n ein tywys drwy'r oesau trwy fywydau bob dydd ei thrigolion.

"Mae hoff bethau'r bobl am yr Amgueddfa'r union yr un peth, ond rydym hefyd wedi creu rhannau newydd a phwysig yma."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nod y Gweithdy yw rhoi mwy o wybodaeth am sgiliau traddodiadol a chyfle i bobl roi cynnig ar rai ohonynt

Mae'r prif adeilad wedi ei ailwampio, ac mae orielau newydd yn adrodd hanes Cymru.

Mae adeiladau hanesyddol hefyd wedi'u hychwanegu at y casgliad yn Sain Ffagan.

Eisoes mae Bryn Eryr wedi agor, sef fferm Oes Haearn sy'n seiliedig ar safle o oes y Rhufeiniaid. Mae'r ddau dŷ crwn gyda waliau clai chwe throedfedd o drwch, a thoeon gwellt crwn.

Bydd modd i ymwelwyr hefyd weld Llys Llywelyn, sy'n seiliedig ar safle archeolegol Llys Rhosyr ar Ynys Môn, ac adeilad newydd y Gweithdy, ble mae modd gweld ac ymarfer sgiliau crefftwyr traddodiadol.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Ddysgu Weston wedi bod ar agor ym Medi 2017

Mae orielau newydd yng Nghanolfan Ddysgu Weston eisoes wedi croesawu dros 60,000 o ddisgyblion a myfyrwyr ers ei agor ym Medi 2017.

Mae'r buddsoddiad yn Sain Ffagan wedi newid y ffordd o weithio dros holl safleoedd Amgueddfa Cymru.

Dywedodd Mr Anderson: "Nid prosiect â chanddo ddechrau a diwedd yn unig mohono. Mae'n ffordd newydd o weithio ar gyfer y sefydliad cyfan, sy'n seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol a chymryd rhan.

"Dyma ethos y byddwn yn ei gynnal a'i ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf. Mae'n ddechrau cyfnod newydd yn Sain Ffagan, a holl amgueddfeydd cenedlaethol Cymru."

Gwireddu gweledigaeth

Er mwyn ariannu'r gwaith, cafwyd £11.5m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, £7m gan Lywodraeth Cymru a'r gweddill gan Amgueddfa Cymru a'i noddwyr - cyfanswm o ychydig dros £27m.

Mae dros 50 o adeiladau hanesyddol ar safle Sain Ffagan, ac mae tua 500,000 o bobl yn ymweld â'r amgueddfa bob blwyddyn.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: "Braint yn wir yw bod yn rhan o wireddu gweledigaeth… ac yn sicr mae hi wedi bod yn fraint i Lywodraeth Cymru gael cefnogi'r Amgueddfa wrth iddi fynd ati i roi ei gweledigaeth ar waith yma yn Sain Ffagan.

"Diolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â'r project, am estyn llaw, am ehangu gorwelion, am agor drysau ac am chwalu rhwystrau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prosiect wedi caniatáu ffyrdd newydd o adrodd hanes Cymru a'i phobl