Gostyngiad disgyblion Cymraeg Safon Uwch yn 'grisis'?

  • Cyhoeddwyd
arholiadau

Mae pennaeth adran Gymraeg un o brifysgolion Cymru yn rhybuddio am y gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n sefyll yr arholiad Cymraeg Safon Uwch.

Daw'r rhybudd ar ôl gostyngiad o 42% yn y nifer sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch dros y saith mlynedd diwethaf.

Mae'r gostyngiad yn y nifer sy'n sefyll yr arholiad Cymraeg Safon Uwch yn cael ei deimlo gan adrannau'r Gymraeg yn y prifysgolion.

Mae pennaeth dros dro Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Eurig Salisbury wedi galw'r sefyllfa yn un "difrifol".

Cwymp

"Falle bod angen defnyddio'r gair crisis er mwyn gallu canolbwyntio meddyliau pobl ar y peth - dyna beth mae'r adrannau Cymraeg wedi bod yn neud," meddai.

"Dwi wedi bod yn lobïo'r llywodraeth ym Mae Caerdydd er mwyn gwneud yn amlwg iddyn nhw pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa."

Nôl yn 2011 roedd 922 o ddisgyblion wedi sefyll arholiadau Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith Safon Uwch.

Ond erbyn yr haf eleni roedd y ffigwr wedi cwympo i 536 gyda'r nifer sy'n astudio'r pwnc wedi cwympo pob blwyddyn dros y saith mlynedd diwethaf.

Eurig Salisbury
Disgrifiad o’r llun,

Eurig Salisbury yw pennaeth dros dro Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth

Cymraeg Ail Iaith sydd wedi gweld y cwymp mwyaf gyda gostyngiad o bron i 50%.

Mae'r Prifardd Aneirin Karadog hefyd wedi rhannu ei bryderon ynglŷn â'r sefyllfa.

Dywedodd: "Dwi'n meddwl bod yn ormodiaith i ddweud bod ni mewn cyfnod o grisis nawr ond 'dan ni ar ein ffordd i grisis os ydy'r duedd yn parhau.

"Mae pethau am edrych yn ddu iawn arnom ni felly mae angen i ni neud ymdrechion, a dwi'n gwybod bod y Coleg Cymraeg yn ddiweddar wedi gwneud hyn."

'Pwyslais ar bynciau gwyddonol'

Yn ôl yr Athro Peredur Lynch o Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor, mae'r sefyllfa yn "bryderus" ac mae'n "allweddol" sicrhau mwy o raddedigion Cymraeg er mwyn ceisio cyrraedd targed Llywodaeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Ond mae'n dweud bod angen edrych yn ofalus ar yr ystadegau yng nghyd-destun gostyngiad cyffredinol ar draws Prydain yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio pynciau celfyddydau a dyniaethau.

Ar ben hynny, meddai, mae pwysau cynyddol "sydd bron â bod wedi mynd yn bwysa' gormesol" ar fyfyrwyr i astudio pynciau STEM.

"Pobol y celfyddyda' ydyn nhw yn eu calonna' ond mae'r ddelwedd yma mai'r pynciau gwyddonol fydd yn agor drws iddyn nhw i fyd gwaith ac i lwyddiant," dywedodd.

Mae hefyd yn pwysleisio bod cynnydd bach wedi bod yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf.

'Cynyddu niferoedd'

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb drwy ddweud eu bod yn gweithio ar gynlluniau mewn addysg i weithredu i geisio cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio'r Gymraeg ar lefel Safon Uwch.

Dywedodd llefarydd: "Mae ein cynllun Cymraeg mewn Addysg yn cynnwys cam gweithredu i gynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio'r Gymraeg ar lefel Safon Uwch.

"Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i fwrw ymlaen â hyn.

"Mae'r cynllun hefyd yn nodi ein cynlluniau i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Gymraeg fel pwnc.

"Cyflwynwyd cymhelliant newydd o £5,000 i athrawon uwchradd dan hyfforddiant i ymgymryd â'u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg."

Aneirin Karadog
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prifardd Aneirin Karadog hefyd wedi rhannu ei bryderon ynglŷn â'r sefyllfa

Mae Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) wedi ymateb drwy ddweud: "Mae CBAC yn llunio ac yn darparu cymwysterau ac asesiadau yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru.

"Yr un lefel o gefnogaeth sy'n cael ei chynnig o ran yr holl gymwysterau.

"Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys: mynediad uniongyrchol i arbenigwyr pwnc a chefnogaeth weinyddol; cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus; canllawiau i athrawon, cyn bapurau; ac adnoddau digidol rhad ac am ddim.

"Mae Llywodraeth Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn arwain ar drafodaethau yn Grŵp Rhanddeiliaid Hyrwyddo'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch, i ymchwilio i ffyrdd o gynyddu niferoedd sy'n astudio TAG Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith.

"Mae CBAC yn un ymhlith nifer o randdeiliaid eraill sy'n rhan o'r grŵp hwn."