Menyw ag anafiadau 'difrifol' ôl cael ei tharo gan fws

  • Cyhoeddwyd
Heol YstumllwynarthFfynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu de Cymru yn ymateb i ddigwyddiad ar Heol Ystumllwynarth, Abertawe, ar ôl i fenyw gael ei tharo gan fws fore ddydd Iau.

Fe ddioddefodd y ddynes "anafiadau difrifol", ac mae hi bellach wedi ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Roedd rhaid cau'r ffordd i'r ddau gyfeiriad er mwyn gadael i'r ambiwlans awyr lanio'n ddiogel.

Mae disgwyl i'r ffordd i gyfeiriad y gorllewin barhau ar gau am rai oriau er mwyn rhoi cyfle i'r heddlu barhau â'r ymchwiliad.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu ar 101.