Meddyg 'ddim yn ymwybodol' o gwymp dyn mewn cartref gofal

  • Cyhoeddwyd
Heddwyn HughesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Heddwyn Hughes, 67, ar ôl torri ei wddf mewn cartref gofal yng Nghaerfyrddin

Clywodd cwest fod meddyg, gafodd ei alw i archwilio dyn mewn cartref gofal oedd wedi anafu yn ddifrifol, ddim wedi cael gwybod ei fod wedi disgyn.

Roedd Heddwyn Hughes yn 67 oed ac yn byw mewn cartref gofal yng Nghaerfyrddin pan lithrodd a thorri ei wddf ym mis Mai 2015.

Bu farw Mr Hughes yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin chwe mis yn ddiweddarach.

Dywedodd Dr Idris Gravelle wrth y cwest nad oedd wedi derbyn "unrhyw wybodaeth" am gwymp Mr Hughes.

Ddydd Mercher dywedodd gweithwyr gofal wrth y rheithgor fod Mr Hughes wedi llithro i'r llawr wrth iddynt geisio'i godi i'w draed o'r gwely.

Dywedodd un o'r tystion ei fod wedi penderfynu codi Mr Hughes, oedd yn pwyso 16 stôn, i'w draed am ei fod eisoes wedi sefyll yn barod yn ystod y bore hwnnw, ond nad oedd ef na'i gydweithiwr yn medru cynnal ei bwysau wrth iddo lanio ar y llawr.

Nid oedd hi'n glir ar y pryd fod Mr Hughes wedi torri ei wddf.

'Dim tystiolaeth o unrhyw boen'

Wrth roi tystiolaeth i'r cwest ar-lein, dywedodd Dr Gravelle iddo gael ei alw i archwilio Mr Hughes ar y diwrnod y disgynnodd.

Yn ôl Dr Gravelle roedd hi'n anodd dweud os oedd y claf yn ymwybodol gan nad oedd yn rhoi unrhyw ymatebion geiriol ac nid oedd yn symud ei gorff heblaw am ei droed dde.

"Roeddwn i'n meddwl ar y pryd y gallai fod wedi dioddef o strôc ac fe wnes i alw am ambiwlans i'w gludo i'r ysbyty," meddai.

"Doeddwn i ddim yn ymwybodol ei fod wedi disgyn... doeddwn i ddim wedi derbyn unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny. Pe taswn i'n gwybod am hynny yna byddwn i wedi ei archwilio am drawma."

Ychwanegodd: "Doedd dim tystiolaeth o unrhyw boen, cefais i wybod ei fod wedi llewygu."

Mae'r rheithgor bellach wedi cael eu hanfon allan i ystyried eu dyfarniad.