Bar y Parrot yng Nghaerfyrddin i gau ddiwedd y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Parrot

Bydd bar cerddoriaeth y Parrot yng Nghaerfyrddin yn cau ddiwedd y flwyddyn oherwydd problemau ariannol.

Mae'r bar yn adnabyddus yng ngorllewin Cymru a thu hwnt am roi llwyfan i gerddorion ifanc Cymraeg, ers ei agor saith mlynedd yn ôl.

Mewn datganiad ar ei gwefan, fe ddywedodd y Parrot: "Mae'n flin gennym ddweud y bydd y Parrot yn cau ei drysau ar ddiwedd 2018.

"Fe drïon ni, fe wir drïon ni, ond mae hi wedi dod yn glir i ni, er ein holl ymdrechion, nad oes modd cadw dau ben llinyn ynghyd."

Dywedodd Gruffydd Owen, rheolwr label Recordiau Libertino, bod y newyddion yn "glec anferth" i'r sîn gerddorol Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y band Adwaith ffurfio yn y Parrot

"Y Parrot yw calon y sîn, nid jest yng Nghaerfyrddin ond i bobl Sir Benfro a thu hwnt," meddai.

"Tu allan i Gaerdydd does 'na ddim llawer o venues sy'n cynnal gigs Cymraeg fel y Parrot - roedd tua dau yr wythnos.

"Dyw e ddim jest yn golled i Gaerfyrddin ond yn golled enfawr i Gymru - mae'n symbol o gymuned ifanc.

"Roedd hi'n beth dewr iawn i agor y Parrot yng nghanol Caerfyrddin. Falle bod hi'n anoddach cael pobl i fynd allan y dyddiau yma i gigs. Mae'n glec anferth."

Ymgyrch i godi arian

Nôl yn 2014, llwyddodd ymgyrch ar-lein i godi mwy na £11,000 er mwyn cadw'r bar ar agor.

Ar ôl sicrhau digon o arian i gadw'r lle ar agor, fe drosglwyddodd y grŵp West Wales Music Collective yr awenau i fenter newydd.

Ond mae'n debyg bod trafferthion ariannol wedi gorfodi'r perchnogion i gau.

Gan ddiolch i'r perfformwyr a'r ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd, dywedodd y Parrot y byddai'r amserlen yn aros yr un fath tan y diwrnod olaf ar nos galan.