Dyn 19 oed yn euog o achosi niwed corfforol difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gasnewydd wedi ei gael yn euog o ddefnyddio ei gerbyd fel arf i daro dau berson ar noson allan yng Nghasnewydd.
Roedd McCauley Cox, 19, yn gwadu dau gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Fe gafodd dwy fenyw anafiadau difrifol ar ôl cael eu taro tra'n disgwyl am dacsi ar Ffordd Cambrian yn oriau mân 29 Ebrill.
Dywedodd y barnwr Daniel Williams fod Cox yn wynebu "cyfnod sylweddol" mewn sefydliad ar gyfer troseddwyr ifanc o ganlyniad i'w ymddygiad "gwarthus" yn gynharach eleni.
Bydd Cox yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018