Paul Robeson a'i gariad at Gymru

  • Cyhoeddwyd

Roedd cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni yn cofio cysylltiad y canwr, Paul Robeson, â Chymru, ac yn nodi 60 mlynedd ers ei ymweliad â'r Eisteddfod yng Nglyn Ebwy.

Cafodd Hwn yw Fy Mrawd ei ysgrifennu gan Robat Arwyn a Mererid Hopwood, a'i seren oedd Bryn Terfel. Roedd yn portreadu athro sy'n ceisio rhannu ei edmygedd o Paul Robeson â'i ddisgyblion, ac yn perfformio ochr-yn-ochr â rhai o berfformwyr ifanc mwyaf blaenllaw Cymru.

Ond beth yw hanes cysylltiad y canwr o America â gwlad y gân?

Paul RobesonFfynhonnell y llun, H. F. Davis

"There's no place in the world I like more than Wales." - Paul Robeson.

Mae'n debyg i'w gariad tuag at Gymru ddechrau yn 1929 pan glywodd griw o lowyr o dde Cymru yn canu mewn gorymdaith yn Llundain. Roedd wedi ei hudo â'u harmonïau perffaith, ac ar ôl sgwrs, ymunodd â'r glowyr yn eu protest yn erbyn y cyflyrau gwael yn y pyllau glo.

Roedd yn gwerthfawrogi brwydr y glowyr dros eu hawliau, ac yn gweld tebygrwydd â'i sefyllfa ei hun, fel dyn du a oedd yn wynebu rhagfarn yn America. Byddai'n aml yn canmol glowyr am frwydro dros hawliau pobl eraill, ynghyd â'u hawliau eu hunain.

Dyna ddechrau ar berthynas gynnes rhyngddo a Chymru.

Dros y blynyddoedd nesaf, byddai'n cyfrannu elw o'i gyngherddau i helpu achos y glowyr yn rheolaidd, ac yn cynnal perfformiadau iddyn nhw a'u teuluoedd.

Yn 1934, roedd wedi bod yn perfformio yng Nghaernarfon, pan glywodd am y drychineb yng Nglofa Gresffordd ger Wrecsam, lle bu farw 266 o ddynion. Cyfrannodd Robeson holl elw ei gyngerdd i sefydlu cronfa i helpu plant y rhai a fu farw.

Proud ValleyFfynhonnell y llun, John D. Kisch/Separate Cinema Archive
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr actores Rachel Thomas hefyd yn serennu yn y ffilm 'Proud Valley' - un o'r ffilmiau cyntaf i gael actor du yn serennu ynddi

Yn 1939, ef oedd seren y ffilm Proud Valley, a gafodd ei ffilmio ym Mhontypridd, am ddyn du a ddaeth i gymoedd de Cymru a chael ei dderbyn gan y glowyr a dod yn aelod o'r côr lleol.

Roedd stori ffuglennol y cymeriad, David Goliath, yn debyg iawn i stori Paul Robeson ei hun, a oedd wedi cael ei groesawu yn gynnes i'r cymunedau glofaol.

line

Hwn yw Fy Mrawd

line

Erbyn yr 1950au, fodd bynnag, daeth stop ar ei deithiau tramor. Ers blynyddoedd, roedd Robeson wedi datgan ei gefnogaeth i'r Undeb Sofietaidd, ond erbyn cyfnod y Rhyfel Oer, roedd America eisiau gwybod unwaith ac am byth 'ar ochr pwy' ydoedd.

Roedd wedi gwrthod cadarnhau neu wadu ei fod yn Gomiwnydd, felly cafodd ei wahardd rhag perfformio yn America a'i atal rhag teithio i Ewrop gan yr awdurdodau.

LP Paul RobesonFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cyngerdd hanesyddol ei recordio a'i ryddhau

Ond roedd Cymru dal am glywed ei lais melfedaidd. Roedd wedi cael ei wahodd i berfformio yn eisteddfod y glowyr ym Mhorthcawl ar 5 Hydref 1957, ond wrth gwrs, nid oedd yn gallu teithio draw.

Yn lle hynny, canodd i lawr y ffôn o Efrog Newydd i gynulleidfa o 5,000 ym Mhafiliwn Porthcawl. Cyflwynodd y caneuon i'r glowyr fel teyrnged i'r ymdrech ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd "am fyd lle gallwn fyw bywydau o ddigon ac urddas".

Yn dilyn ymgyrch ryngwladol, cafodd Paul ei basbort yn ôl, ac yn 1958, derbyniodd wahoddiad i ddod i Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy.

Yno, soniodd am bwysigrwydd ei gysylltiad â Chymru gan ddatgan "Rydych chi wedi siapio fy mywyd - rydw i wedi dysgu gennych chi."

Bu farw yn 1976, ond mae ei ysbryd a'i ddylanwad yn sicr yn parhau yma yng Nghymru.

Paul RobesonFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Paul Robeson yn annerch y dorf yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy yn 1958