Rheolwr CPD Bangor, Craig Harrison yn gadael y clwb
- Cyhoeddwyd
Mae CPD Bangor wedi cadarnhau bod ei rheolwr, Craig Harrison wedi gadael y clwb.
Mae Harrison wedi gadael er mwyn ymgymryd â swydd hyfforddi, llawn amser gyda Chei Connah yn Uwch Gynghrair Cymru.
Fe gafodd Harrison ei benodi ym mis Mai eleni yn dilyn cwymp y clwb o Uwch Gynghrair Cymru.
Aeth y clwb i lawr am fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwrthod trwydded ddomestig iddyn nhw am resymau ariannol.
Mae gan Harrison brofiad helaeth o reoli clybiau yng Nghymru yn dilyn cyfnod llwyddiannus gydag Airbus UK Brychdyn a'r Seintiau Newydd, cyn iddo gael ei benodi'n rheolwr Hartlepool.
Fe gollodd ei swydd gydag Hartlepool yng Nghyngrair Cenedlaethol Lloegr wedi naw mis.
'Iawndal'
Yn ôl gwefan CPD Bangor, mae'r ddau glwb "wedi dod i gytundeb ynglŷn ag iawndal".
Bydd Cyfarwyddwr Pêl-Droed Bangor, Stephen Vaughan Jnr. nawr yn cymryd gofal o'r tîm cyntaf a bydd yn cael ei gynorthwyo gan Luke Purcell ac Alan Lewer.
Dywedodd Mr Vaughan Jnr.: "Fe ddaeth y newyddion fel sioc i ni'r bore ma fod Craig eisiau gadael.
"Mae ein sylw nawr yn troi at ein gêm yn erbyn Mold Alexandra yng Nghwpan Cymru ble bydd rhaid i ni gyd-dynnu er mwyn sicrhau ein bod yn camu ymlaen i'r rownd nesaf."
Mae Bangor yn y pumed safle ar hyn o bryd yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, 14 pwynt y tu ôl i Airbus UK Brychdyn sydd ar y brig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2018