Lansio ymgyrch i drafod 'problem gynyddol' unigrwydd

  • Cyhoeddwyd
unigrwyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai unigrwydd fynd yn "argyfwng mawr o ran iechyd y cyhoedd" os nad oes mwy yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem.

Dywedodd Huw Irranca-Davies fod angen i gymunedau "weithio gyda'n gilydd i daclo'r broblem" os nad oedd pethau am waethygu.

Daw hynny wrth i'r llywodraeth lansio sgwrs genedlaethol i edrych ar y camau y gellir eu cymryd i ddelio â'r mater.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn effeithio bron i un o bob pum person yng Nghymru.

'Corfforol a meddyliol'

Fe wnaeth Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2016-17 ganfod bod tua 440,000 o bobl yn dweud eu bod yn teimlo'n unig, a bod pobl ifanc yn fwy tebygol o fod yn unig na phobl hŷn.

Mae'r sgil effeithiau sydd wedi'u cysylltu ag unigrwydd yn cynnwys marw'n gynt, problemau cysgu, pwysedd gwaed uchel, ansawdd bywyd gwael, risg uwch o drawiad ar y galon a strôc, iselder a hunanladdiad.

Fel rhan o'u hymdrechion, mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod ganddyn nhw ymrwymiad i daclo'r broblem sy'n cynnwys pwyslais ar y blynyddoedd cynnar a gwella profiad plentyndod.

Ymhlith y camau eraill maen nhw'n dweud y gellir eu cymryd i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol mae sicrhau tai a gofal cymdeithasol priodol i bobl, a gwella gwasanaethau iechyd meddwl.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Irranca-Davies y byddai taclo unigrwydd yn lleihau'r galw am wasanaethau iechyd a chymdeithasol

Mynnodd Mr Irranca-Davies fodd bynnag nad oedd gan y llywodraeth yr atebion i gyd, ac mai pwrpas y sgwrs fydd gweithio â grwpiau eraill i ddelio â "phroblem sy'n cynyddu".

"Mae mwy ohonom yn deall erbyn hyn y gall hyn effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oed, ac am amryw o wahanol resymau," meddai'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol.

"Maen nhw'n gallu cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl. Mae perygl y bydd hyn yn dod yn argyfwng mawr o ran iechyd y cyhoedd os na chymerwn gamau nawr a gweithio gyda'n gilydd i daclo'r broblem."

Ychwanegodd: "Does dim modd i Lywodraeth Cymru nac un asiantaeth ar ei phen ei hun fynd i'r afael â'r materion hyn.

"Fel llywodraeth, mae angen i ni feithrin yr amgylchedd cywir a chreu'r amodau addas i eraill allu cynllunio a darparu atebion sy'n diwallu eu hanghenion yn y ffordd orau."