Portmeirion yn prynu siop Kerfoots Porthmadog

  • Cyhoeddwyd
KerfootsFfynhonnell y llun, Google

Cwmni Portmeirion yw perchnogion newydd un o siopau mwyaf adnabyddus Gwynedd.

Aeth siop Kerfoots ym Mhorthmadog i ddwylo'r gweinyddwyr a chau ym mis Awst ar ôl 144 o flynyddoedd.

Cafodd yr adeilad yng nghanol Stryd Fawr y dref ei brynu am £325,000 mewn arwerthiant ym Manceinion ddydd Iau.

Dywed cyfarwyddwyr Portmeirion y bydd y siop yn ailagor yn y gwanwyn ac y bydd "nifer o gyfleoedd am swyddi."

Roedd 22 o bobl yn cael eu cyflogi yn Kerfoots cyn iddi gau.

Dywedodd cyfarwyddwyr Siopau Portmeirion bod hi'n "bleser mawr" i gyhoeddi eu bod wedi prynu Kerfoots.

"Y bwriad fydd ei hagor dan enw Portmeirion yng ngwanwyn 2019 gan weithredu fel siop ar y llawr gwaelod a chaffi ar y llawr cyntaf," meddai'r cyfarwyddwr mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Ni fydd hyn yn effeithio ar Siop Portmeirion, 51 Stryd Fawr, Porthmadog nac ar Caffi Portmeirion, Stryd Fawr Porthmadog.

"Bydd nifer o gyfleon am swyddi'n cael eu creu."

Fe agorwyd Kerfoots ym Mhorthmadog yn 1874 fel siop adrannol oedd yn gwerthu nwyddau haearn.