Rhyddhau dau ddyn wedi digwyddiad yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Heol Peniel Green
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd plismyn arfog eu danfon mewn i ymateb i'r ddigwyddiad yn Heol Peniel Green

Mae dyn 35 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu ar ôl cael ei arestio wedi digwyddiad yn Abertawe.

Roedd yn un o ddau ddyn a gafodd eu harestio ddydd Sadwrn wedi i'r heddlu gael eu galw i Heol Peniel Green, Llansamlet.

Dywed Heddlu'r De bod dyn 34 oed o Rondda Cynon Taf wedi ei ryddhau ond yn dal yn rhan o'u hymchwiliad, sy'n parhau.

Cafodd plismyn arfog wedi cael eu danfon i'r ardal "i sicrhau diogelwch y cyhoedd a swyddogion".

Does dim rhagor o fanylion ynghylch y digwyddiad.