Angladdau iechyd cyhoeddus ar gynnydd

  • Cyhoeddwyd
Jodie Gallagher-Smith
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jodie Gallagher-Smith bod iechyd hirdymor ei gŵr yn golygu na allodd hi gynilo ar gyfer ei angladd

Mae'r nifer o angladdau iechyd cyhoeddus a gafodd eu cynnal yng Nghymru yn 2017-18 ar gynnydd, yn ôl ffigyrau newydd.

Cafodd o leiaf 146 'angladd tlotyn' ei gynnal - sef gwasanaeth angladdol gan awdurdodau cyhoeddus i'r sawl sy'n marw ar ben ei hun, yn dlawd neu heb deulu sy'n fodlon helpu.

Mae'r nifer i fyny 62% ers 2013-14.

Yn ôl un safle cymharu prisiau angladd mae cynilion isel, costau byw a phrisiau angladdau yn golygu nad yw'n bosib i "nifer fforddio talu am angladd".

Mae un cwmni angladdau wedi dweud eu bod nhw'n cynnig dewisiadau rhatach.

Ym mis Mai bu farw Steve, gŵr Jodie Gallagher-Smith, yn 33 oed wedi salwch hir gan adael gweddw a dau o blant.

Fe wnaeth Mrs Smith o Gil-y-coed, Sir Fynwy gais grant i'w helpu gyda'r costau ac mae'n dweud fod y broses wedi bod "yn un anodd" ac nad oedd yr arian a gafodd wedi cyfrannu at hanner y costau.

Cafodd Steve ei amlosgi ond ar hyn o bryd dywed ei wraig na all hi fforddio darn o dir mewn gardd goffa na charreg fedd ond mae'n hi'n cynilo er mwyn gwneud hynny.

Dywedodd: "Mae'n anodd, yn enwedig gyda dau o blant ond rwy'n dymuno bod ganddynt le i fynd i gofio am eu tad."

Disgrifiad o’r llun,

Dyw hi ddim yn syndod, medd Kim Bird o wefan cymharu cost angladdau, bod nifer angladdau iechyd cyhoeddus ar gynnydd gan fod cost angladd yn ddrud

Mae 19 cyngor wedi ateb cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.

O'r rheiny, mae'r ffigyrau'n dangos bod cynghorau wedi gwario £200,000 ar angladdau iechyd cyhoeddus yn 2017-18.

Cyngor Caerdydd sydd wedi gwario y mwyaf (£37,000) ac fe wariodd Cyngor Abertawe £35,000 a Chyngor Pen-y-bont £17,600.

Dywedodd Kim Bird, sy'n gweithio i wefan About the Funeral yng Nghaerdydd: "Oherwydd costau byw drud a chost angladd, dyw nifer o bobl ddim yn gallu fforddio angladd.

"Mae ymchwil diweddar yn dangos nad yw un o bob wyth yn gallu fforddio angladd ac maent yn mynd i ddyled o oddeutu £2,500 oherwydd hynny."

Dywed y dylai pobl gynllunio o flaen llaw a thrafod eu hangladd gyda theulu.

Ymwybodol o'r gost

Yn ôl Shelly Lewis, o gwmni Co-op Funeralcare yn Nhrecelyn, Caerffili, mae pobl bellach yn fwy ymwybodol o bris angladd.

Dywedodd: "Roedd pobl yn arfer gwneud beth oedd yn ddisgwyliedig ohonynt, cynnal angladd traddodiadol.

"Ry'n nawr yn gweld mwy o gyllido torfol - yn enwedig ymhlith pobl ifanc heb gynilion."

Pan fu farw merch, 16 mis oed, ffrind Kate Burke o'r Wyddgrug fe greodd hi dudalen Just Giving er mwyn codi arian i'r teulu.

Dywedodd: "Ro'n i'n teimlo bod e'n un peth llai iddynt feddwl amdano ac ni ddylent deimlo bod yn rhaid iddynt ruthro yn ôl i'r gwaith.

"Dyw teuluoedd sy'n galaru ddim yn y 'stâd iawn o feddwl' wrth drefnu angladd ac fe ddylai fod yna rhywun wrth law i'w cefnogi a'u cynorthwyo."

Yn 2017 dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi dod i gytundeb i ddileu ffioedd claddu ac amlosgi ar gyfer plant yng Nghymru ond mae cost yr angladd yn rhywbeth ar wahân.