Sut mae annog merched i fod yn wyddonwyr?

  • Cyhoeddwyd

Heddiw, mae'n ddiwrnod rhyngwladol merched mewn gwyddoniaeth, ond pam yn 2019 bod dal angen y fath ddiwrnod?

Mae Dr Hannah Dee, a enillodd Wobr Gwyddoniaeth i Ferched yn 2018, yn dweud fod y prinder o ferched ym meysydd gwyddoniaeth a chyfrifiadureg yn broblem.

Ond pam nad yw'r pynciau yma'n denu cymaint o ferched, a pha gyngor sydd i rieni i ddenu eu plant i'r maes?

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Mae Dr Hannah Dee yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae'n dweud bod y ffaith fod y gymdeithas yn gwahaniaethu yn ôl rhyw yn cael effaith ar ferched a bechgyn.

"Mae'r sefyllfa sydd gennym yn y DU, ble mae cymdeithas yn aml yn cael ei rhannu yn ôl rhyw, yn beth drwg i fechgyn a merched - dyw deallusrwydd emosiynol bechgyn ddim yn gwella. Mae'n syndod cyn lleied o eirfa emosiynol sydd gan fechgyn wyth neu naw oed.

"Mae'r 'pincio' eithafol o ferched pan maen nhw'n blant wedi cael effaith ofnadwy ar ferched, ond hefyd wedi bod yr un mor niweidiol i fechgyn," meddai.

'Gwyddoniaeth ar gyfer bechgyn'

"Mae'n dechrau'n gynnar iawn," meddai Dr Dee. "Pan gafodd fy nai barti pen-blwydd yn bump oed ar thema gwyddoniaeth, dywedodd merch a oedd yn ffrind iddo 'mae gwyddoniaeth ar gyfer bechgyn'. A digwyddodd hynny yn bum mlwydd oed!"

Cafodd Dr Dee ei chydnabod am ei gwaith yn hyrwyddo rôl menywod ym maes cyfrifiadureg mewn seremoni yn Llundain yn Hydref, 2018. Dathlu menywod mewn gwyddoniaeth yw nod y gwobrau, ac annog eraill i fentro i'r byd gwyddonol.

Dim ond 23% o'r rhai sydd yn gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn y Deyrnas Unedig sy'n fenywod, yn ôl Prifysgol Aberystwyth.

'Yr unig fenyw yn y stafell'

"Mae pob menyw sy'n gweithio ym maes cyfrifiadureg yn gyfarwydd â'r profiad o fod yr unig fenyw yn y stafell. Sefais i fyny yn fy nghyflwyniad cyntaf mewn cynhadledd fel myfyriwr PhD a sylweddolais mai fi oedd yr unig fenyw yno.

"Dyw hyn ddim yn anarferol ond mae'n dal yn rhyfedd. Pan o'n i yn y brifysgol yn Leeds, tua 10% o'r myfyrwyr cyfrifiadureg oedd yn fenywod.

"Ond pam? Mae cyfrifiadureg yn faes creadigol. Mae pobl yn meddwl amdano fel rhywbeth mecanyddol, ond pan rwyt ti'n adeiladu rhaglen gyfrifiadurol, rwyt ti'n adeiladu rhywbeth allan o syniadau.

"Mae'n rhaid i ni ehangu'r apêl."

Gweithio gyda phlant Aberystwyth

Yn ogystal â chynnal cynhadledd flynyddol BCSWomen Lovelace i roi cyfle i fyfyrwyr sy'n ferched ym maes cyfrifiadureg i rwydweithio, mae Dr Hannah Dee hefyd yn gweithio gydag ysgolion yn ardal Aberystwyth i danio brwdfrydedd plant lleol ym maes cyfrifiadureg drwy Glwb Roboteg Aberystwyth.

"Dw i'n gwneud llawer o waith gyda phlant, gan gynnwys Pumpkin Hack blynyddol yn Aberystwyth," meddai.

"Mae gennym gystadleuaeth codio ar draws Cymru; mae'n rhaid i'r plant ysgrifennu animeiddwaith i gydfynd â cherdd. Eleni ysgrifennodd Eurig Salisbury ddwy gerdd i ni, un Gymraeg ac un Saesneg - a'r dasg oedd animeiddio'r cerddi."

Teganau pinc 'i ferched'

Yn ôl Dr Dee, mae'r pwyslais sy'n cael ei roi ar pa degannau y 'dylai' merched a bechgyn chwarae â nhw, yn niweidiol.

"Mae llawer o'r teganau ar gyfer merched yn binc a dyw nhw ddim yn annog chwarae arbrofol a chwarae creadigol, ond yn hytrach yn annog chwarae naratif ynglŷn â dweud straeon a rôl gofalgar.

"Ar y llaw arall, mae'r teganau i fechgyn yn fwy tebygol o gynnwys rhannau sy'n symud ac elfennau o adeiladu. Dyma rywbeth mae plant yn ei weld trwy eu bywydau, felly mae'r rhagdybiau hyn gyda nhw pan maen nhw'n dechrau ysgol.

"Mae plant yn cychwyn dweud 'mae hwnna'n degan i ferch neu i fachgen' pan yn ddwy neu'n dair mlwydd oed."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

"Rydw i'n teimlo ei bod hi'n bwysig fod pobl yn annog merched i fod yn fwy creadigol, i adeiladu pethau, a siarad â merched ynglŷn â chodio ac adeiladu, chwarae gyda Lego neu flociau eraill.

"Mae 'na weithgareddau allwch chi wneud gyda'ch plant gartref, fel adeiladu cloch drws ar gyfer ystafell wely. Mae clymu technoleg a gwyddoniaeth i grefft a chreu yn apelio at ferched."

Dyma gyngor Elaine Veaudour, sy'n gweithio i gwmni peirianneg ARUP yng Nghaerdydd, ac yn ymweld ag ysgolion i hybu diddordeb merched yn y pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM):

  • Gallwch annog plant i fod yn chwilfrydig, i ofyn cwestiynau ac i ddod o hyd i'r atebion gyda'ch gilydd.

  • Mae coginio'n wych am ei fod yn cyfuno bioleg (gwyddoniaeth bwyd), cemeg a mathemateg - a gallwch hefyd fwyta'r bwyd!

  • Cerddoriaeth - mae amseru a churiad y gerddoriaeth yn fathemateg syml. Datblygwch hyn drwy gymysgu cerddoriaeth gwahanol a deall y ddau guriad gwahanol.

  • Pan yn lliwio, gallwch sôn am y lliwiau yn cymysgu gyda'i gilydd ac am wahanol ansawdd y creon / pensil / paent. Mae pob un yn elfen gemegol wahanol.

  • Mae gan y mwyafrif o amgueddfeydd neu sŵau arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfleoedd i ddysgu am hanes technoleg pob math o feysydd e.e. gwyddoniaeth, celfyddydau neu ffasiwn.

  • Gemau codio ar y cyfrifiadur - mae gwneud i grwban neu rywbeth tebyg symud o amgylch y sgrîn yn helpu plant i ddysgu hanfodion codio.

  • Trefnwch i'ch plant siarad â phobl sy'n gwneud swydd ym maes STEM. Mae gan beirianneg a gwyddoniaeth cymaint o wahanol ffrydiau mae'r opsiynau gyrfaol yn ddibendraw.

  • Peidiwch â chanolbwyntio gormod ar y canlyniadau, ond mwy ar y broses a beth ddysgodd y plant ar hyd y ffordd. Mae camgymeriadau'n beth da achos maen nhw'n helpu plant i ystyried syniadau newydd.