Pwy oedd pobl trefi'r Cymoedd?

  • Cyhoeddwyd
LlwynypiaFfynhonnell y llun, Llyfrgell Rhondda Cynon Taf

Mae Cymoedd diwydiannol de Cymru'n llawn enwau trefi a phentrefi fel Hopkinstown a Trealaw... enwau sydd wedi'u bathu gan bobl dylanwadol sydd wedi hen adael y tir erbyn hyn.

Ond pwy oedden nhw, a pham fod gymaint yn cael eu cofio yn y modd hwn?

Yn fras... glo. Roedd y mwyafrif yn berchnogion pyllau neu weithfeydd glo, a'r trefi a phentrefi wedi'u hadeiladu ganddynt er mwyn cartrefu'r gweithwyr oedd yn gweithio yn y pyllau. Ond mae 'na ambell i eithriad i'r rheol yma... fel y gwelwn ni!

Trealaw a Trewilliam

Mae Trealaw, ar gyrion Tonypandy, fel nifer o ardaloedd yn y Cymoedd wedi'i enwi ar ôl perchennog pwll glo, ond yn yr achos yma mae hefyd cysylltiad barddol cryf.

Daw enw Trealaw o Alaw Goch, sef enw barddol Dafydd Williams, a sefydlodd y pentref, ynghyd â Threwiliam, pentref i'r de o Drealaw.

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Williams, neu Alaw Goch... ar ôl gwneud ei ffortiwn yn y pyllau, prynodd dir yn Nhrealaw a Miskin Manor ger Caerdydd

Cafodd Dafydd Williams ei eni ger Ystradowen ym Mro Morgannwg, ond symudodd ei deulu i ardal Aberdâr pan oedd yn blentyn.

Dechreuodd weithio yng ngweithfeydd dur Abernant cyn iddo, ynghyd â chriw o lowyr eraill, ddarganfod haen o lo o safon uchel yn Ynyscynon.

Drwy ddatblygu pyllau a'u gwerthu mewn sawl ardal, llwyddodd i dyfu'n ddyn cyfoethog iawn ac ef oedd yn berchen ar y tir lle datblygwyd Trealaw.

Roedd Dafydd Williams yn gefnogol iawn o ddiwylliant a thraddodiadau Cymru. Roedd yn arwain a beirniadau Eisteddfodau lleol ac roedd yn ffigwr allweddol yn y broses o drefnu'r Eisteddfod Genedlaethol fodern gyntaf yn Aberdâr yn 1861.

Treherbert

Ardal amaethyddol oedd Treherbert cyn y chwyldro diwydiannol, ond yn Awst 1845 prynodd Ymddiriedolwyr Ardalydd Bute fferm Cwmsaerbren gan deulu gŵr o'r enw William Davies am £11,000 er mwyn suddo'r pwll cyntaf yn y Rhondda.

Defnyddiwyd yr enw Treherbert gyntaf tua 1855 er cof am Iarlloedd Herbert o Benfro, rhai o ddisgynyddion y Butes.

Yn 1841, dim ond 250 o bobl oedd yn byw yn yr ardaloedd sydd nawr yn cynnwys Treherbert, Tynewydd, Blaenrhondda a Blaencwm. Erbyn 1861, roedd hynny wedi codi i 1,203.

Newidiodd teulu Bute hanes a thirwedd y Cymoedd am byth, ac daeth yn un o deuluoedd cyfoethoca'r byd yn y cyfnod.

Disgrifiad o’r llun,

Pwll Pendyrus yn 1943

Pendyrus [Tylerstown]

Bydd Pendyrus yn gyfarwydd iawn i lawer ohonoch chi gan taw dyma lle mae'r gyfres gomedi Stella yncael ei ffilmio, ac mae'r pentref yn ymddangos o'r awyr ar ddechrau pob rhaglen.

Mae enw Saesneg y pentref yn hanu o enw Alfred Tylor, gŵr o Lundain a brynodd yr hawl i fwyngloddio ar fferm Pendyrus yn yr ardal yn 1872.

Tyfodd y pentref o gwmpas pwll Pendyrus gyda chwmni Tylor & Co yn gyfrifol am adeiladu'r tai ar gyfer y gweithwyr a thros amser dechreuodd yr ardal gael ei hadnabod fel Tylorstown yn hytrach na'i enw gwreiddiol.

Gwelodd y pwll un o nifer o ddamweiniau a oedd yn gyffredin yn y diwydiant glo ar yr adeg hynny, pan laddwyd 57 o lowyr a 80 o geffylau mewn ffrwydriad yn y pwll yn 1896.

O ganlyniad i'r ffrwydriad, dechreuodd glowyr ddefnyddio adar fel ffordd o ganfod nwy ffrwydriol, arferiad wnaeth bara' tan iddo gael ei ddileu yn 1987.

Trehopcyn

Pentref ar lan afon y Rhondda Fawr, rhyw filltir i'r gorllewin o Bontypridd, yw Trehopcyn.

Yn 1842, coedwig oedd yn rhan o stâd Tŷ Mawr oedd ar y safle, ond mi ddatblygwyd y tir ar ôl i ddau bwll glo gael ei sefydlu gerllaw, sef Tŷ Mawr a Gyfeillion.

Enw perchennog stâd Tŷ Mawr ar y pryd oedd Evan Hopkin ac ar ei ôl ef yr enwyd y rhes o dai a gafodd eu hadeiladu fel cartrefi i'r glowyr.

Erbyn 1891, roedd gan Trehopcyn ffowndri haearn, gyda ffyrnau golosg, gwaith cemegol a phoblogaeth o 1,500.

Ffynhonnell y llun, Mapio Cymru

Treharris, Pentref Edwards a Threlewis

Sefydlwyd Treharris, sydd yn bentref ar gyrion Abercynon, o amgylch gwaith glo'r Deep Navigation a agorwyd yn 1878.

Gafodd y gwaith glo a'r dref eu henwi ar ôl Frederick William Harris, perchennog yr Harris Navigation Steam Coal Company.

Ar un adeg, pwll glo Deep Navigation oedd yr un dyfnaf yn ne Cymru ac roedd yn cyflenwi'r glo a oedd yn rhedeg ffwrnesi mwyafrif llongau'r cyfnod, oherwydd bod y glo'n arbennig o addas ar gyfer y pwrpas hynny.

Mae ffynhonell enw Pentref Edwards, neu Edwardsville â llai o statws bonheddig. Tyfodd y pentref o amgylch gorsaf drenau Mynwent-y-Crynwyr a dechreuodd fel ambell i dŷ a thŷ tafarn sydd erbyn hyn yn dwyn yr enw The Great Western Hotel.

Disgrifiad o’r llun,

Tafarn y Great Western.... fel gwelwch chi mae'r llun wedi'i thynnu cyn i Edmund Edwards gymryd yr awennau

Mae Pentref Edwards yn cymryd ei enw gan reolwr y dafarn o gwmpas y flwyddyn 1900, sef gŵr o'r enw Edmund Edwards. Cynhaliwyd cyfarfod yn y gwesty tua'r cyfnod yma i ddewis enw i'r pentref a dyfalwch pwy oedd cadeirydd y cyfarfod? Ie, Mr. Edwards!

Ar ôl perchennog y fferm lle adeiladwyd y tai gwreiddiol, eto ar gyfer gweithwyr pwll y Deep Navigation, y cafodd Trelewis ei henwi. Mae er cof am William Lewis o fferm Bontnewydd ac mae cofeb iddo yn eglwys Gelligaer gerllaw.

Disgrifiad o’r llun,

Pwll glo 'Deep Navigation' i'w weld ar draws y cwm o Drelewis

Ond beth am y gweddill?

Pwy oedd y Stanley yn Stanleytown? Pwy oedd Watts, Wattstown?

Os oes gyda chi unrhyw wybodaeth am rhain, cysylltwch:

Cyfeiriad e-bost: cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol

Twitter: @BBCCymruFyw, dolen allanol