Plaid Cymru yn penodi dau ddirprwy yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Sian Gwenllian

Mae Sian Gwenllian a Rhun ap Iorwerth wedi'u henwi fel dirprwyon Plaid Cymru yng ngrŵp Cynulliad y blaid.

Bydd AC Arfon, Sian Gwenllian, yn ddirprwy ar faterion polisi a strategaeth, tra bydd AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth yn cymryd rôl dirprwy'r Senedd.

Fel rhan o'i rôl newydd, bydd Mr ap Iorwerth yn cymryd lle Adam Price os bydd yr arweinydd yn absennol o gwestiynau wythnosol y Prif Weinidog.

Cafodd Adam Price ei ethol fel arweinydd newydd Plaid Cymru ym mis Medi, gan drechu Mr ap Iorwerth a'r cyn-arweinydd, Leanne Wood.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd pwy fydd ei dîm i'r fainc flaen yn y Cynulliad.

Bydd Mr ap Iorwerth yn parhau fel y Prif Chwip, tra bydd yr AC Dr Dai Lloyd yn parhau fel cadeirydd grŵp Cynulliad y blaid.