Brêc car a laddodd ferch ym Merthyr 'heb ei godi i'r pen'

  • Cyhoeddwyd
Pearl Melody BlackFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Pearl Melody Black yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Heolgerrig, Merthyr Tudful

Mae cwest wedi clywed fod perchennog cerbyd a laddodd ferch ddim wedi codi'r brêc llaw i'r pen.

Bu farw Pearl Black, oedd yn flwydd oed, wedi i'r cerbyd oedd wedi ei barcio yn Heolgerrig, Merthyr Tudful lithro i lawr allt a tharo wal ym mis Awst 2017.

Yn Llys y Crwner ym Mhontypridd dywedodd perchennog y cerbyd, Paul Williams, ei fod wedi gosod y brêc llaw yn gywir wrth iddo barcio'r car ger cartref ei gyn-gariad.

Ond dywedodd yr ymchwilydd fforensig, PC Gareth Davies, nad oedd y brêc llaw wedi ei osod yn "effeithlon", a bod y car awtomatig ddim wedi ei osod yn y gêr parcio chwaith.

Ychwanegodd os fyddai'r brêc llaw wedi ei osod yn iawn neu fod y car yn y gêr cywir, byddai hynny wedi atal y cerbyd Range Rover rhag symud yn ôl.

Dywedodd Mr Williams wrth y gwrandawiad: "Rydw i'n ddyn mawr a dwi'n gwybod pan mae'r brêc wedi ei osod yn iawn wrth i mi ei dynnu fyny."

Methodd brêc y Range Rover ac fe lithrodd ar draws y ffordd ac ar hyd llwybr cerdded cyn taro'r wal a ddisgynnodd ar Pearl.

Cafodd ei brawd wyth mis oed ei anafu hefyd.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhieni Pearl, Paul a Gemma Black, yn bresennol yn y cwest

Disgrifiodd Mr Williams, sy'n gyrru lorïau, ei hun fel "mecanydd cymwysedig", gan egluro ei fod yn berchen ar y car am bedair blynedd cyn y digwyddiad a heb gael unrhyw broblemau gyda'r brêc llaw.

Clywodd y cwest hefyd fod gan y cerbyd dystysgrif MOT cyfredol a dilys.

Ychwanegodd Mr Williams nad oedd wedi tynnu'r brêc llaw yr holl ffordd i'r pen oherwydd "bod hynny yn gallu gwneud niwed i'r brêc yn y tymor hir".

Galw am newid y ddeddf

Wedi'r cwest fe wnaeth teulu Pearl Black alw am erlyn Andrew Williams am ddynladdiad, gan ddweud hefyd bod angen newid y gyfraith.

Yn ôl y teulu fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron benderfynu peidio dwyn achos troseddol, ond mae'r teulu am i'r penderfyniad yna gael ei adolygu ar ôl clywed tystiolaeth yn y cwest.

Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Byddai ein merch fach brydferth, doniol wedi bod yn dair oed fis diwethaf.

"Mae bwlch yn ein bywydau na fydd yn cael ei lenwi fyth."

Dywedodd y rhieni nad oedd modd erlyn Mr Williams gan fod y cerbyd ar dir preifat ger ei gartref.

Dywedodd Peter Black bod y "man gwan yn y ddeddf" yn golygu nad oedd modd dwyn achos gan fod y cerbyd wedi dechrau symud ar dir preifat.

Ychwanegodd ei fod yn galw ar y llywodraeth i newid y ddeddf "fel nad oes rhaid i deulu arall ddioddef fel ni".

Mae'r teulu wedi gofyn i'r cyfreithiwr Richard Langdon ysgrifennu at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i ofyn iddyn nhw adolygu'r achos a chyflwyno cyhuddiad o ddynladdiad diofal dybryd.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y CPS: "Fe wnaethon ni gynnal adolygiad trylwyr o'r dystiolaeth gan ddod i'r casgliad nad oedd yr achos yn cwrdd â'r meini prawf tystiolaeth ar gyfer erlyniad.

"Fe wnaethon ni egluro'r rhesymau y tu ôl i'r penderfyniad yma i deulu Pearl, ac mae ein meddyliau yn parhau gyda nhw."