A fydd adeilad newydd i oriel gelf gyfoes?

  • Cyhoeddwyd
Gwaith Anna BoghiguianFfynhonnell y llun, POLLY THOMAS

Efallai na fydd oriel gelf gyfoes genedlaethol sydd ar y gweill yn cael ei lleoli mewn adeilad newydd, mae'r BBC yn cael ar ddeall.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canfyddiadau astudiaeth dichonoldeb ar gyfer oriel newydd yn fuan.

Er bod adeilad newydd yn dal i gael ei ystyried, mae'n bosib y bydd orielau sy'n bodoli eisoes yn cael eu defnyddio yn lle hynny.

Y disgwyl yw y bydd Gweinidog y Celfyddydau, Arglwydd Elis-Thomas, yn gwneud cyhoeddiad am benderfyniad terfynol y llywodraeth cyn diwedd Tachwedd.

Rhwydwaith o orielau

Mae dewisiadau amgen i adeilad pwrpasol newydd yn cynnwys safleoedd fel Oriel Gregynog yn y Llyfrgell Genedlaethol, ynghyd â rhwydwaith o orielau llai ar draws Cymru.

Byddai'r safleoedd yn arddangos gweithiau newydd gan artistiaid cyfoes o Gymru, yn cartrefu arddangosfeydd o gasgliadau sy'n bodoli'n barod a darparu addysg a chyfleoedd hyfforddiant.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod bob dewis yn dal i gael eu hystyried.

Fel rhan o gefnogaeth Plaid Cymru i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn 2017-18, fe wnaeth y gweinidog diwylliant gytuno i gynnal astudiaeth dichonoldeb i greu oriel genedlaethol i gelf gyfoes ac amgueddfa chwaraeon.

Ffynhonnell y llun, Ian Capper/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Oriel Gregynog yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi cael ei awgrymu fel un lleoliad posib

Dywedodd Karen McKinnon, cyfarwyddwr gwobr Artes Mundi i gelf gyfoes, fod Cymru "wir angen" oriel newydd.

"Ar ba ffurf ddylai hynny fod, dydw i ddim yn siŵr, ond rwy'n credu yn bendant fod angen oriel gelf gyfoes i Gymru," meddai.

Ychwanegodd fod oriel newydd yn "un dewis", ond fod "argyfwng mewn cyllid cyhoeddus" yn golygu fod yn rhaid ystyried dewisiadau eraill o ddifri.

'Lle Celf yw'r unig gyfle'

Mae eraill yn fwy cadarn o blaid codi adeilad newydd i arddangos celf gyfoes Cymru.

Dywedodd yr artist Angharad Pearce Jones mai'r Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r unig gyfle mae sawl artist yn ei gael i arddangos eu gwaith yng Nghymru.

"Byddwn wrth fy modd o weld Oriel Genedlaethol i Gelf Gyfoes," meddai.

"Mae'r bobl yma, mae'r gwaith yma, ond does unman i'r gwaith gael disgleirio.

"Dydw i ddim yn difrïo'r system orielau gwych sydd gyda ni eisoes yng Nghymru. Gyda'i gilydd maen nhw'n oriel gelf i Gymru, ond maen nhw ar wahân... ymhob man... ac rwy'n credu ein bod ni angen yr un adeilad yna hefyd."