Drakeford a Morgan i ystyried dileu newidiadau i'r grant
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi dweud wrth ei gefnogwyr y byddai'n fodlon dadwneud y newidiadau i becynnau gofal pobl anabl os oes tystiolaeth eu bod yn colli allan.
Mae Eluned Morgan, sy'n sefyll yn erbyn Mr Drakeford yn y ras i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, wedi dweud ei bod yn cytuno gydag ef ar y mater hwn.
Cafodd cyfrifoldeb am Grant Byw'n Annibynnol Cymru (GBAC), a'r 1,300 o bobl oedd yn ei dderbyn, ei drosglwyddo i'r cynghorau yn gynharach eleni.
Ond mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru yn awgrymu fod dros 100 o bobl anabl wedi gweld toriad yn eu pecynnau gofal yn y dilyn y newidiadau gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Mr Drakeford mae Llywodraeth y DU ar fai am "chwalu'r rhan yna o'r wladwriaeth les".
Fe gafodd GBAC ei gyflwyno er mwyn cynorthwyo pobl oedd yn arfer hawlio taliadau o gronfa byw'n annibynnol Llywodraeth y DU a gaeodd yn 2015.
Mae'r rhai sy'n gymwys yn aml yn defnyddio'r arian i dalu gofalwyr a chynorthwywyr personol er mwyn medru byw gartref, gweithio a chymdeithasu.
Dangosai'r ymchwil fod tua 100 o'r 600 sydd wedi derbyn ailasesiad wedi gweld toriad yn eu pecynnau gofal.
Mewn ymateb ddydd Mercher, dywedodd y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y maes, Huw Irranca-Davies, na fyddai unrhyw un "ar eu colled" o ganlyniad i'r newid.
Yn ystod digwyddiad fel rhan o ymgyrch Mr Drakeford i fod yn arweinydd nesaf y blaid Lafur yng Nghymru, dywedodd "os fyddai gwerthusiad annibynnol yn dangos nad yw'r system bresennol yn gweithio cystal â'r hen un, yna byddai'n barod i ddadwneud y newidiadau".
"Mae'r arian yr un peth ac o'r blaen, ac mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gwneud job dda o rannu'r arian.
"Ond rydyn ni'n dechrau derbyn adroddiadau nad yw hynny yn digwydd mewn rhai llefydd a bod yr arian ddim yn cyrraedd derbynyddion y GBAC yn yr un ffordd a llynedd."
Ychwanegodd y dylid parhau â'r system bresennol pe bai'r dystiolaeth yn dangos fod yr arian yn cyrraedd y llefydd cywir.
Sicrhau taliadau
Mae Mr Irranca-Davies wedi cytuno i gynnal gwerthusiad, gan nodi y byddai rhaid i'r broses gael ei gynnal gan rywun sydd "heb gysylltiad o gwbl ag awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru".
Mewn ymateb i'r adroddiadau o doriadau ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae mwyafrif llethol y bobl sydd wedi cael adolygiad o'u hanghenion am gefnogaeth i'r dyfodol yn, neu yn mynd i, dderbyn cefnogaeth gan wasanaethau cymdeithasol o natur debyg i'r hyn yr oedden nhw'n ei chael drwy eu taliadau GBAC.
"Rydym am sicrhau fod pobl anabl yng Nghymru, os ydyn nhw'n derbyn taliadau GBAC yn y gorffennol neu beidio, yn cael cefnogaeth i fyw'n annibynnol yn y gymuned os ydyn nhw'n dymuno hynny."
Dywedodd un arall o'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur y byddai'n barod i ddileu'r newidiadau.
"Byddwn i'n cytuno gyda Mark," meddai wrth BBC Cymru.
Dywedodd y dyliad aros am ganlyniadau adolygiad o'r sefyllfa, ond ychwanegodd:
"Fe ddylen ni gofio bod aelodau'r blaid Lafur wedi mynegi eu barn ar y mater yma yn glir iawn yn ystod cynhadledd y blaid."
Fe wnaeth cynhadledd wanwyn Llafur Cymru basio cynnig yn cefnogi ailsefydlu GBAC.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018