Dicter am newidiadau i becynnau gofal pobl anabl
- Cyhoeddwyd
Mae dros 100 o bobl anabl wedi gweld toriad yn eu pecynnau gofal yn dilyn newidiadau gan Lywodraeth Cymru.
Fe gafodd cyfrifoldeb am Grant Byw'n Annibynnol Cymru (GBAC), a'r 1,300 o bobl oedd yn ei dderbyn, ei drosglwyddo i'r cynghorau.
Hyd yma mae tua hanner wedi cael eu hailasesu a'u rhoi ar becynnau newydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y "mwyafrif llethol" yn derbyn cefnogaeth "debyg" i'r hyn oedden nhw'n ei chael o'r blaen.
Cyn y newid fe ddaeth gweinidogion dan bwysau i gadw cronfa ganolog gan fod ymgyrchwyr yn poeni y byddai trosglwyddo'r arian a chyfrifoldeb i awdurdodau lleol yn arwain at doriadau.
Ym mis Mehefin dywedodd y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y maes, Huw Irranca-Davies, na fyddai unrhyw un "ar eu colled" o ganlyniad i'r newid, ond fe wnaeth addo cadw golwg ar y sefyllfa.
Fe gafodd GBAC ei gyflwyno er mwyn cynorthwyo pobl oedd yn arfer hawlio taliadau o gronfa byw'n annibynnol Llywodraeth y DU a gaeodd yn 2015.
Mae'r rhai sy'n gymwys yn aml yn defnyddio'r arian i dalu gofalwyr a chynorthwywyr personol er mwyn medru byw gartref, gweithio a chymdeithasu.
Mae'r rhai sy'n derbyn taliadau yn aml yn cael eu hystyried fel y rhai sydd â'r anableddau dwysaf.
Hyd yn hyn mae Cyngor Wrecsam, er enghraifft, wedi dod i benderfyniad ar 58 o becynnau gofal ac wedi gwneud toriadau i 40 ohonyn nhw.
Ar draws Cymru mae 130 o becynnau wedi cynyddu, gan gynnwys 60 ym Mhowys, ac mae tua 350 wedi cael eu cadw ar yr un lefel tra bod cannoedd yn dal i ddisgwyl am ailasesiad.
'Roedd o'n ysgytwad'
Mae gan Cecilia Kenny o Wrecsam barlys yr ymennydd ac mae'n defnyddio cadair olwyn awtomatig.
Mae ei phecyn gofal yn talu am gynorthwywyr personol sy'n rhoi gofal hanfodol iddi yn ei chartref ac wrth gymdeithasu.
Mae hi'n apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Wrecsam i gwtogi ei horiau o gefnogaeth o 68 awr yr wythnos i 41.
"Roedd o'n ysgytwad i ddechrau oherwydd dyma fy mywyd i, a dyw pobl ddim yn gweld hynny," meddai.
"Nid mater o newid oriau yw hyn... dyma fy mywyd a sut dwi'n byw fy mywyd, a heb y gefnogaeth dwi'n ei gael, fedra' i ddim."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam ei fod wedi cynorthwyo pobl i ddatblygu sgiliau i fod yn fwy annibynnol, gan gael mynediad at "adnoddau cymunedol" a rhannu cefnogaeth "pan yn briodol".
Ychwanegodd: "Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi pobl i hybu eu hannibyniaeth yn eu cartrefi a chymunedau lle bynnag mae'n bosib.
"Mae hyn wedi arwain at unigolion yn medru ateb eu gofynion mewn ffyrdd gwahanol yn hytrach na dim ond gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod lleol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae mwyafrif llethol y bobl sydd wedi cael adolygiad o'u hanghenion am gefnogaeth i'r dyfodol yn, neu yn mynd i, dderbyn cefnogaeth gan wasanaethau cymdeithasol o natur debyg i'r hyn yr oedden nhw'n ei chael drwy eu taliadau GBAC.
"Os oes newidiadau wedi bod yn amgylchiadau pobl ers eu hadolygiad diwethaf gan GBAC, bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y gefnogaeth y byddan nhw'n ei derbyn... mewn rhai achosion yn arwain at gynnydd yn y gefnogaeth ac mewn eraill newid yn y gefnogaeth fydd yn cael ei darparu.
"Mae hyn yn enwedig os yw'r gefnogaeth bellach yn angen am ofal iechyd.
"Rydym am sicrhau fod pobl anabl yng Nghymru, os ydyn nhw'n derbyn taliadau GBAC yn y gorffennol neu beidio, yn cael cefnogaeth i fyw'n annibynnol yn y gymuned os ydyn nhw'n dymuno hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018