Carcharu dyn am ddwy flynedd ar ôl iddo daro beiciwr
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr a ymosododd ar feiciwr gan achosi iddo ddisgyn i ochr arall y ffordd wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Darren Hefferman, 38 oed, wedi goddiweddyd y beiciwr wrth deithio ar hyd yr A4047. Roedd y beiciwr wedi mynegi pryder am y modd roedd Hefferman wedi ei basio.
Yn fuan wedyn fe stopiodd Hefferman ei gerbyd er mwyn aros am Gareth Marshall, 43 oed. Wrth i'r beiciwr fynd heibio cafodd ei daro yn ei wyneb. Roedd grym yr ergyd yn ddigon i achosi Mr Marshall i ddisgyn oddi ar ei feic i ochr arall y ffordd.
Fe dorrodd Mr Marshall ei belfis a dioddef llosgiadau ymysg anafiadau eraill ar ôl cael ei daro gan fan Ford Transit.
Fe blediodd Hefferman yn euog i achosi niwed corfforol difrifol.
Clywodd y Llys fod y digwyddiad wedi effeithio bywyd personol, bywyd teuluol a busnes Mr Marshall: "Rydw i wastad wedi bod yn berson heini, ac mae'r amser rydw i wedi ei dreulio mewn cadair olwyn hefyd wedi effeithio fy iechyd meddwl."
Wrth ddedfrydu Hefferman, dywedodd y barnwr, Richard Williams fod ei ymddygiad yn "drahaus, yn dwp ac yn ddiamynedd" a bod y drosedd mor ddifrifol ei fod yn cyfiawnhau cyfnod yn y carchar.