Newid llyfryn 'negyddol' am Syndrom Down wedi beirniadaeth

  • Cyhoeddwyd
plentyn gyda syndrom downFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae llyfryn gwybodaeth ar gyfer menywod beichiog sy'n dewis cael profion Syndrom Down wedi cael ei addasu, ar ôl beirniadaeth ei fod yn canolbwyntio'n ormodol ar broblemau iechyd y gallai'r plentyn ei wynebu.

Cafodd y deunydd ei greu i gyd-fynd â phrawf NIPT - sy'n profi rhannau o DNA'r ffoetws yng ngwaed y fam i weld allai'r plentyn fod â chyflwr genetig neu gromosomaidd.

Mae ymgyrchwyr yn honni fod menywod beichiog yn cael eu "gwthio tuag at erthyliad".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnig y wybodaeth er mwyn helpu rhieni gyda phenderfyniadau.

Mae prawf NIPT, sydd ar gael yng Nghymru ers mis Ebrill, hefyd yn sgrinio ar gyfer syndromau Edward a Patau gyda chywirdeb o fwy na 98% yn ystod tri mis cyntaf beichiogrwydd.

Dim ond y dechneg sgrinio arferol, sef amniocentesis, sydd yn gallu cadarnhau diagnosis, ond mae'r prawf hwn yn achosi i un o bob 200 mam golli'i phlentyn.

Os oes penderfyniad fod gan fenyw siawns uchel o gael plentyn gydag un o'r cyflyrau hyn, yna mae NIPT yn cael ei gynnig iddynt yn ogystal â llyfryn sy'n cynnwys gwybodaeth am y cyflwr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething eu bod nhw wedi penderfynu newid y llyfryn gwreiddiol ar ôl derbyn beirniadaeth

Mewn llythyr diweddar at un o'r ymgyrchwyr, cyfaddefodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, fod y llyfryn gwreiddiol wedi cael ei newid ar ôl cyngor gan y Nuffield Council on Bioethics.

Penderfynodd y cyngor fod y llyfryn yn "canolbwyntio'n ormodol ar y problemau iechyd" a bod "diffyg gwybodaeth am NIPT".

Mae'r llyfryn newydd wedi newid rhywfaint o'r wybodaeth am broblemau iechyd, ac yn nodi fod plant sydd â Syndrom Down yn byw bywydau "llawn" ac "iach, gyda nifer yn gweithio ac yn byw yn annibynnol".

Angen gwybodaeth 'deg'

Dywedodd Frances Jenkin o Gasnewydd, mam i ferch 10 oed sydd â Syndrom Down, fod y gefnogaeth yn annheg a'i fod yn ochri gydag erthylu.

"Hyd y gwn i, nid oes unrhyw riant wedi cael cynnig i gwrdd â theuluoedd hapus sydd wedi magu plentyn sydd â Syndrom Down, dim ond teuluoedd oedd wedi erthylu yn barod," meddai.

"Mae'n rhaid i'r wybodaeth fod yn deg, ac yn gwbl ddiduedd. Dydw i ddim yn dweud nad yw erthylu yn ateb i rai teuluoedd, ond mae'n rhaid rhannu'r wybodaeth mewn modd teg."

Ychwanegodd nad oes cwnsela ar gael i fenywod sydd eisiau parhau gyda'r beichiogrwydd ar ôl diagnosis, tra bod y cynnig yno i'r rheiny sy'n penderfynu erthylu.

Ffynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond y dechneg sgrinio arferol, sef amniocentesis, sydd yn gallu cadarnhau diagnosis

Mae gwybodaeth gyfoes a chywir ynglŷn â'r cyflwr yn "hanfodol" er mwyn i gyplau fedru gwneud penderfyniadau deallus, yn ôl y Gymdeithas Syndrom Down.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae unrhyw brawf sgrinio yn ddewis personol. Yng Nghymru mae tua 60% o fenywod yn dewis cael y prawf Syndrom Down sydd ar gael.

"Mae rhieni yn derbyn y wybodaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer gwneud penderfyniad deallus ynglŷn â'r profion sgrinio ac mae angen iddyn nhw dderbyn cefnogaeth drwy gydol eu gofal beth bynnag yw eu penderfyniad."