Cost ysbyty newydd yn Y Rhyl bron yn dyblu i £40m

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty AlexFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl

Mae cost ysbyty newydd arfaethedig yn y Rhyl wedi bron â dyblu i £40.2m.

Ddydd Iau fe fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystyried cynllun busnes i ddatblygu safle Ysbyty Brenhinol Alexandra.

Pan gafodd yr achos gwreiddiol ei amlinellu ar gyfer Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych y gost gafodd ei roi oedd £22.2m.

Ond ers hynny mae polisïau cenedlaethol wedi newid, gwasanaethau newydd wedi'u hychwanegu, a chostau cyfalaf wedi cynyddu.

Byddai'r datblygiad yn golygu adnewyddu adeilad Gradd II presennol yr 'Alex', gafodd ei adeiladu yn yr 1890au fel ysbyty plant a chartref ymadfer.

Gwasanaethau newydd

Fel rhan o'r ymgynghoriad yn 2013 fe wnaeth y gymuned leol fynnu bod gwlâu cymunedol yn cael eu cynnwys yno er mwyn ateb galw lleol, gyda nifer o gleifion ar hyn o bryd yn gorfod mynd i Fae Colwyn, Treffynnon, Dinbych neu Rhuthun.

Mae disgwyl i'r datblygiad hefyd leihau pwysau ar adran frys Ysbyty Glan Clwyd.

Bydd gwasanaethau eraill yn cynnwys ardal driniaethau ar gyfer nyrsys cymunedol, gwasanaeth iechyd rhyw estynedig, gwasanaethau therapi allanol, a gwasanaethau deintyddol a radioleg.

Os yw caniatâd yn cael ei roi ar gyfer y datblygiad mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Mawrth 2022.