Ystyried codi wal i atal llifogydd yn Llangefni

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Afon Cefni orlifo ym mis Tachwedd 2017 wedi diwrnod o law trwm ar draws Cymru

Bydd adeiladu wal i amddiffyn tref Llangefni rhag llifogydd yn y dyfodol yn cael ei drafod gan bwyllgor gweithredol Cyngor Môn ddydd Llun.

Flwyddyn yn ôl fe orlifodd Afon Cefni yn ystod glaw trwm ac roedd rhannau o'r dref dan droedfeddi o ddŵr, gyda thai a busnesau yn cael eu difrodi.

Bydd dogfen fydd yn cael ei chyflwyno i'r cyngor ddydd Llun yn nodi bod y llifogydd wedi effeithio ar 27 busnes a chwe thŷ.

Mae Popty Glandŵr yn parhau ar gau oherwydd y difrod.

'Angen gweithredu ar frys'

Er mwyn atal llifogydd tebyg rhag digwydd eto bydd cais yn cael ei gyflwyno i'r cyngor i drosglwyddo £85,000 i'r Adran Briffyrdd er mwyn codi wal y tu ôl i Glandŵr yn Llangefni.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd llifogydd 2017 effaith ar faes parcio swyddfeydd y cyngor sir yn Llangefni

Yn dilyn y llifogydd fe drefnodd yr Aelod Cynulliad lleol, Rhun ap Iorwerth, sesiynau trafod arbennig ac fe ddaeth hi'n glir yn ystod y sesiynau bod trigolion lleol am i rywbeth gael ei wneud cyn gaeaf 2018.

O ganlyniad fe drefnodd Cyfoeth Naturiol Cymru i lanhau'r afon ac mae'n fwriad hefyd llunio cynllun i osgoi llifogydd, ond mae ofnau y bydd hi'n flynyddoedd cyn i'r cynllun ddod i rym.

Ddiwedd mis Tachwedd y llynedd fe alwodd un cynghorydd am adeiladu ffordd newydd rhwng Porthaethwy a Biwmares gan fod ffordd yr A545 wedi cau am wythnos yn dilyn tirlithriad a ddigwyddodd yn ystod llifogydd mawr.

Yn ôl Alwyn Rowlands, aelod o Gyngor Tref Biwmares, ffordd newydd ar lwybr newydd ydy'r unig ateb yn y tymor hir.