Cyngor ffasiwn ar gyfer y gaeaf

  • Cyhoeddwyd

Mae'r steilydd ffasiwn Jo Letton yn gweithio gyda sêr y byd teledu a phobl gyffredin i greu delwedd ffasiynol i bob siâp. Mae hi'n byw yn Y Felinheli gyda'i theulu. Dyma ei chyngor am sut i ddiweddaru'ch steil ar gyfer y gaeaf.

Disgrifia dy steil di.

Trendi ond mewn ffordd arbennig fy hun.

Pa fath o bethau wyt ti'n ystyried pan yn steilio rhywun?

Dw i'n gweithio gyda ffordd o fyw, steil a siâp corff y person ond dw i'n hoffi gwthio nhw tu hwnt i'w ffiniau.

Dw i'n cychwyn gyda holiadur ynglŷn â maint, ffordd o fyw, beth maen nhw'n hoffi a ddim yn hoffi cyn cychwyn siopa. Dyw cyllideb ddim yn bwysig - dw i'n gweithio gyda phobl sydd â £100 neu £2000 i'w wario.

Beth maen nhw eisiau creu sy'n bwysig - ar gyfer achlysur arbennig neu wardrob newydd bob dydd.

Dw i'n ffeindio gwisg sy'n pwysleisio rhannau gorau'r corff a chuddio'r rhannau hynny mae'r person yn anhapus â nhw. Ti'n gweithio i greu'r look gorau ar gyfer siâp y corff. Mae gan bawb hang-ups ac mae rhain yn gallu deillio o sylw gan rywun 10 mlynedd yn ôl. Dw i'n gwrando ac yn gweithio gyda rhywun i ddangos ffordd wahanol o wisgo dillad.

Disgrifiad o’r llun,

'Gwisgwch got dda, ffynci' - dyma ddewis Jo ar gyfer y gaeaf

Pa effaith mae steilio yn ei gael ar berson?

Mae'n anhygoel - pan ti'n siopa mae 'na gyffro nerfus achos dyw nhw ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Unwaith mae'r wisg gyntaf yn iawn, maen nhw'n teimlo'n grêt ac mae'r hyder yn cynyddu. Mae'n ryddhad iddyn nhw ac yn werth pob eiliad i fi. Dw i'n caru'r gwaith.

Mae'r effaith mwyaf trawiadol yn aml ar fenywod sy' wedi cael babi. Falle o'n nhw'n mwynhau dillad cyn cael plant ond maen nhw'n colli hyder, mae siâp y corff yn newid a dydyn nhw ddim yn gweld pwrpas gwisgo'n ffasiynol. Mae steilio yn rhoi ysbrydoliaeth iddyn nhw yn enwedig os maen nhw'n mynd yn ôl i'r gwaith. Mae'n helpu nhw i wynebu'r byd eto.

Does dim rhaid gwario ffortiwn - ond yn hytrach creu wardrob o lai o ddillad sy'n gallu creu mwy o outfits. S'dim angen meddwl yn rhy galed yn y bore - allwch chi dal edrych yn wych.

Beth yw rhan orau'r gwaith?

Gweld hyder pobl yn tyfu. Mae'n ymwneud â lot mwy na'r dillad ar eich cefn - mae seicoleg y dillad mor bwysig, sut mae pobl yn teimlo. Mae gweld pobl yn teimlo'n dda am eu hunain ac yn teimlo'n hyderus eto, yn wych.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Panel Ffit Cymru a'r cyflwynydd Lisa Gwilym

Sut brofiad oedd steilio'r cystadleuwyr, cyflwynydd a'r panel ar gyfer rhaglen deledu Ffit Cymru?

Roedd yn wych. Roedd y cyflwynydd Lisa Gwilym yn hapus i fi wthio'r ffiniau. Roedden nhw gyd mor wahanol ac roedd yn wych creu edrychiad gwahanol i bawb bob wythnos. Roedd creu look ar gyfer y rhaglen a rhoi teimlad cyfoes iddi'n bwysig iawn i fi.

Dw i'n gweithio gyda steil y perfformiwr ond yn rhoi sbin fy hun arno. Rhaid i'r dillad siwtio'r perfformiwr - os nad ydyn nhw'n teimlo'n grêt yn y dillad, byddan nhw ddim yn perfformio'n hyderus. Dw i eisiau iddyn nhw deimlo'n wych achos mae hynny'n newid sut maen nhw'n perfformio ac yn gwella hyder a iaith y corff.

Hoff ddillad bob dydd?

Dw i'n gwisgo trowser a jîns gyda llawer o liw a phrint hefyd. Mae cot yn bwysig iawn. Gwisgwch got dda, ffynci.

Un darn o gyngor ffasiwn sy'n addas i bawb?

Mae dewis y ffit cywir o ddillad i siwtio siâp eich corff yn angenrheidiol. Does dim rhaid i'r dillad fod yn ddrud - bydd eich edrychiad yn newid yn syth os yw'r dillad yn ffitio'n dda.